Newyddion S4C

Madeleine McCann: Archwilio cronfa ddŵr am yr ail ddiwrnod

24/05/2023
S4C

Mae’r heddlu sy'n ymchwilio i ddiflaniad Madeleine McCann yn parhau i archwilio cronfa ddŵr ym Mhortiwgal ddydd Mercher.

Mae swyddogion yn gweithio gydag offer torri gwair yn y Barragem do Arade, sydd tua 50 cilometr o Praia da Luz, lle aeth y ferch dair oed ar goll yn yn 2007.

Mae cwn heddlu, cerbyd gwasanaeth tân a chwch yn rhan o’r ymchwiliad ar lan y gronfa ddŵr.

Dywedodd yr heddlu eu bod yn gwneud hyn ar gais heddlu yn yr Almaen.

Image
newyddion

Christian Brueckner

Y gred yw bod Christian Brueckner, sy'n cael ei amau o chwarae rhan yn niflaniad Madeleine McCann, wedi ymweld â’r gronfa.

Mae'r heddlu yn ymchwilio i'r posibilrwydd bod y dyn 45 oed wedi cipio'r plentyn tair oed a'i llofruddio. Roedd Madeleine ar ei gwyliau ym Mhortiwgal gyda'i theulu.

Mae Christian Brueckner eisoes yn y carchar wedi iddo gael ei ddedfrydu i saith mlynedd o dan glo am dreisio ym Mhortiwgal yn 2005.

Cyhoeddwyd yn 2022 ei fod ymysg y rhai sy'n cael eu hamau gan heddlu Portiwgal o chwarae rhan yn niflaniad Madeleine McCann.

Nid yw wedi ei gyhuddo o drosedd yn ymwneud â’r achos ac mae’n gwadu unrhyw gysylltiad.

‘Awgrymiadau’

Nid yw awdurdodau’r Almaen wedi datgelu pam mae nhw'n archwilio’r gronfa ddŵr, ond dywedodd erlynydd dinas Braunschweig Christian Wolters eu bod yn gweithredu ar sail “rhai awgrymiadau”.

Dywedodd wrth y darlledwr cyhoeddus o’r Almaen NDR: “Mae gennym ni arwyddion y gallem ddod o hyd i dystiolaeth yno. Nid wyf am ddweud beth yn union yw hynny, ac nid wyf ychwaith am ddweud o ble y daw'r arwyddion hyn.

“Yr unig beth y byddwn i’n ei egluro yw nad yw’n dod gan y sawl dan amheuaeth - felly nid oes gennym ni gyfaddefiad nac unrhyw beth tebyg nawr, nac arwydd gan y sawl dan amheuaeth o ble y byddai’n gwneud synnwyr i chwilio.”

Image
newyddion

Mae heddlu Portiwgal ac yr Almaen yn rhan o'r ymgyrch.

Mae swyddogion Prydeinig o Heddlu Llundain hefyd yn bresennol, er mwyn gallu hysbysu rhieni Madeleine os oes unrhyw ddatblygiadau.

Dywedodd asantiaeth newyddion Portiwgaleg fod y diwrnod cyntaf wedi dod i ben heb unrhyw ganlyniadau arwyddocaol, a bod yr heddlu wedi casglu rhai pethau, gan gynnwys dillad.

Daw’r archwiliad newydd wrth i’r Swyddfa Gartref roi £110,000 yn ychwanegol yn y flwyddyn ariannol hon i Heddlu Llundain helpu i ddod o hyd i Madeleine.

Lluniau:PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.