Newyddion S4C

Traeth.jpeg

Darogan tywydd poethaf y flwyddyn hyd yma dros y dyddiau nesaf

NS4C 24/05/2023

Mae disgwyl i dywydd poethaf 2023 hyd yma gyrraedd o fewn oriau, a bydd penwythnos Gŵyl y Banc yn un cynnes hefyd yn ôl y rhagolygon.

Fe allai’r tymheredd gyrraedd 24C brynhawn dydd Mercher yn ne ddwyrain Cymru a gorllewin canolbarth Lloegr, sef yr uchaf a gofnodwyd eleni hyd yma meddai’r Swyddfa Dywydd.

Fe fydd “cyfnod braf o dywydd” i ddilyn dros y penwythnos, gydag uchafbwyntiau yn yr 20au isel.

Mae disgwyl mai dydd Sadwrn fydd y diwrnod cynhesaf dros Ŵyl y Banc.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dywydd fod pwysedd uchel yn “gadarn wrth y llyw” ar draws y DU ac i’r rhan fwyaf o bobol fe fydd yn “braf a llachar”, heb fawr o law.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod y tymheredd sydd i'w ddisgwyl yn uwch na'r cyfartaledd ar gyfer mis Mai.

Dydd Llun oedd diwrnod poetha'r flwyddyn hyd yn hyn, gyda 23C wedi ei gofnodi mewn rhannau o dde Cymru.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.