Newyddion S4C

Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yn cyhoeddi ei hymddeoliad

23/05/2023
elizabeth treasure.jpg

Mae Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol ar ddiwedd y flwyddyn.

Bydd Yr Athro Elizabeth Treasure yn gadael y Brifysgol yn gynt na'r bwriad yn sgil triniaeth feddygol barhaus. 

Cafodd yr Athro Treasure ei phenodi yn Is-Ganghellor y brifysgol yn 2017, ac ers hynny, mae wedi mynd ymlaen i sicrhau fod addysg nyrsio yn cael ei haddysgu yno am y tro cyntaf yn ogystal ag agor unig Ysgol Filfeddygol Cymru. 

Fe wnaeth hefyd sicrhau fod rhai o adeiladau y brifysgol, gan gynnwys Neuadd Breswyl Pantycelyn, yn cael ei hadnewyddu yn ogystal ag adeilad gwreiddiol y brifysgol ar y promenâd yn y dref. 

Bwriad gwreiddiol Yr Athro Treasure oedd i gamu lawr fel Is-Ganghellor ym mis Medi 2024. 

'Cyfraniad eithriadol'

Wrth gyhoeddi ei phenderfyniad, dywedodd: "Fel y gwyddoch, roeddwn wedi bwriadu ymddeol fel eich Is-Ganghellor yn 2024. Fodd bynnag, rwyf wedi penderfynu ailasesu fy nghynlluniau yn dilyn triniaeth feddygol ddiweddar a pharhaus.

"Rwyf wedi ystyried y penderfyniad hwn yn ddwys dros y misoedd diwethaf gan fy mod wrth fy modd yn cydweithio gyda chi. Fodd bynnag, gan fy mod yn agosáu at y dyddiad ymddeol a gynlluniwyd, fe ddes i’r casgliad mai gadael ychydig yn gynt nag a fwriadwyd yn wreiddiol i ganolbwyntio ar fy iechyd oedd y penderfyniad cywir."

Bydd yn gadael ei rôl  ym mis Rhagfyr 2023, a bydd Cadeirydd Cyngor y Brifysgol, Dr Emyr Roberts, yn dechrau ar y broses o recriwtio Is-Ganghellor newydd yn fuan. 

Dywedodd Dr Emyr Roberts: "Er yn siomedig y bydd Elizabeth yn gadael y Brifysgol yn gynt na’r disgwyl, rwy’n gwerthfawrogi’n fawr ei rhesymau dros wneud hynny.

"Trwy ei harweinyddiaeth, mae Elizabeth wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’r sefydliad hwn ers iddi gyrraedd yn 2017, ac mae wedi trawsnewid y Brifysgol mewn cymaint o ffyrdd a hynny drwy gadw ysbryd unigryw Aberystwyth."

'Ysbrydoli'

Dywedodd Llywydd y Senedd, Elin Jones: "Os oes unrhyw un allan yna sydd wedi gwneud swydd well nag Elizabeth Treasure o droi sefydliad cyhoeddus o gwmpas, yna byddwn i'n cael sioc.

"Mae cyfnod Elizabeth Treasure yn y swydd wedi bod yn drawsnewidiol.

"Mae hi wedi ysbrydoli ei staff ac wedi parchu ei myfyrwyr. Mae hi wedi deall angen i'r Brifysgol berthyn i'w thref a'i gwlad. Dysgodd a parchodd y Gymraeg. O ganlyniad i'w gwaith, gall pob un ohonom sy'n dal Prifysgol Aberystwyth yn annwyl i'w chalon., ddal ein pennau'n uchel eto."
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.