Matt Hancock i amddiffyn ei hun yn erbyn cyhuddiadau Dominic Cummings
27/05/2021
Fe fydd yr Ysgrifennydd Iechyd, Matt Hancock, yn amddiffyn ei hun yn Nhŷ’r Cyffredin fore dydd Iau yn dilyn cyfres o gyhuddiadau yn ei erbyn gan gyn-brif ymgynghorydd y Prif Weinidog.
Roedd Dominic Cummings yn cyflwyno tystiolaeth yn ystod ymchwiliad annibynnol i ymateb y llywodraeth i’r pandemig.
Mae Mr Cummings wedi cyhuddo Mr Hancock o fod yn anaddas i wneud ei waith, ac y dylai fod wedi colli ei waith am "ddweud celwydd" ynglŷn â Covid-19.
Mae’r Gweinidog Iechyd wedi gwrthod sylwadau Mr Cummings, gan ychwanegu y bydd yn ymateb yn llawn i’r honiadau gerbron Aelodau Seneddol ddydd Iau.