Newyddion S4C

Perchennog car rali o Sir Gâr

Perchennog car rali o Sir Gâr yn pledio'n euog i dwyll ar ôl honni fod ei gerbyd wedi ei ddwyn

NS4C 23/05/2023

Bydd dyn 35 oed o Drefach Felindre a ffugiodd fod ei gar rali gwerth £49,000 wedi ei ddwyn o'r tu allan i'w gartref, yn cael ei ddedfrydu fis nesaf. 

Yn Llys Ynadon Llanelli, mae Llŷr Jones wedi pledio'n euog i gyhuddiad o dwyll. 

Honnodd Jones fod ei gar Ford Escort MK2 wedi ei ddwyn o'i gartref rhwng 9 a 15 Hydref 2022. 

Ar y pryd, apeliodd Heddlu Dyfed Powys am wybodaeth am y car. Fe wnaeth Llŷr Jones gyfweliad â Newyddion S4C ar y pryd gan ddweud fod y sefyllfa yn “dorcalonnus” ac yn "golled enfawr".

Dywedodd fod y car wedi ei ddarganfod mewn coedwig yn ardal Castell Newydd Emlyn, a bod nifer o rannau o’r cerbyd wedi diflannu.

Cafodd Jones ei arestio yn ddiweddarach ar gyhuddiadau yn ymwneud â thwyll.  

Mae disgwyl iddo gael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ar 1 Mehefin, a chafodd ei ryddhau ar fechniaeth tan yr achos hwnnw. 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.