Teyrngedau i 'dad a thad-cu cariadus' wrth i ddyn arall gael ei gyhuddo o'i lofruddio

Mae dyn 38 oed wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth ar ôl i’r heddlu ddod o hyd i gorff yn Clase, Abertawe.
Mae Darren Steel wedi ei gyhuddo o lofruddiaeth Martin Steel, 48 oed, ac wedi ei gadw yn y ddalfa.
Cafodd y corff ei ddarganfod ar Hill View Crescent am 10:30 ddydd Sadwrn.
Dywedodd teulu Martin eu bod nhw wedi eu “tristau yn fawr gan ein colled annisgwyl”.
“Roedd Martin yn fab, tad, tad-cu a nai cariadus ac fe fyddwn ni yn gweld ei eisiau.”
Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Paul Raikes fod yr achos wedi “brawychu” y gymuned.
“Rydyn ni’n cydymdeimlo gyda theulu Martin sydd wedi torri eu calonnau ynglŷn â’r hyn sydd wedi digwydd,” meddai.