Madeleine McCann: Yr heddlu ym Mhortiwgal yn dechrau archwilio cronfa ddŵr

madeleine mccann

Bydd yr heddlu sy'n ymchwilio i ddiflaniad Madeleine McCann yn dechrau archwilio cronfa ddŵr ym Mhortiwgal ddydd Mawrth. 

Dywedodd yr heddlu eu bod yn gwneud hyn ar gais heddlu yn yr Almaen. 

Bydd ardal ger cronfa ddŵr Barragem do Arade, sydd tua 50 cilometr o Praia da Luz lle aeth Madeleine McCann ar goll yn 2007, yn cael ei archwilio ddydd Mawrth. 

Y gred yw fod Christian Brueckner, un o’r rhai sy’n cael eu hamau o chwarae rhan yn niflaniad Madeleine McCann, wedi ymweld â’r gronfa.

Mae'r heddlu yn ymchwilio i weld a allai'r dyn 45 oed fod wedi llofruddio'r plentyn tair oed ar y pryd pe bai wedi iddo ei chipio tra yr oedd ar ei gwyliau gyda'i theulu. 

Archwilio

Mae Christian Brueckner eisoes yn y carchar wedi iddo gael ei ddedfrydu i saith mlynedd o dan glo am dreisio ym Mhortiwgal yn 2005.

Cyhoeddwyd yn 2022 ei fod ymysg y rhai sy'n cael eu hamau gan heddlu Portiwgal o chwarae rhan yn niflaniad Madeleine McCann.

Nid yw wedi ei gyhuddo o drosedd yn ymwneud â’r achos a mae’n gwadu unrhyw gysylltiad.

Nid dyma'r tro cyntaf i'r gronfa ddŵr gael ei harchwilio. 

Yn 2008, fe wnaeth cyfreithiwr o Bortiwgal, Marcos Aragao Correia, dalu i blymwyr arbenigol i archwilio'r gronfa wedi iddo glywed fod corff Madeleine McCann yno.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.