Canolfannau brechu Cymru yn ‘ddiogel ac effeithlon’ yn ôl arolwg
Mae canolfannau brechu yng Nghymru yn “ddiogel ac effeithlon” - ond mae lle i wella, yn ôl arolwg newydd.
Cafodd ymchwil Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ei gynnal mewn wyth canolfan brechu torfol yng Nghymru ym mis Mawrth 2021.
Bwriad yr arolygiad oedd ystyried pa mor effeithiol oedd y trefniadau yn y canolfannau i reoli’r risg i iechyd a diogelwch y rhai sy’n cael eu brechu.
Mae 2,112,647 o bobl yng Nghymru wedi derbyn eu dos cyntaf o’r brechlyn hyd yma.
Rhoddwyd adborth gan gleifion a staff – gyda’r adroddiad yn datgan fod ymatebion 500 o bobl a gafodd eu brechu wedi bod yn “gadarnhaol iawn”.
'Staff ymroddedig'
Dywed yr adroddiad fod y byrddau iechyd wedi “rhoi trefniadau priodol ar waith i oruchwylio’r broses o gyflawni eu rhaglenni brechu yn ddiogel er gwaethaf yr amgylcheddau unigryw”.
Roedd “enghreifftiau cadarnhaol” hefyd o’r brechlynnau yn cael eu rheoli’n ddiogel, yn ogystal â mesurau atal a rheoli heintiau da.
Ychwanegodd yr adroddiad fod staff wedi gweithio yn “ymroddedig” ac yn “galed” er mwyn rhoi gofal diogel i gleifion.
Serch hynny, mae’r adroddiad yn pwysleisio fod ymweliadau’r arolygiaeth â’r canolfannau brechu wedi amlygu’r agweddau sydd angen eu gwella.
Ymysg yr argymhellion mae cynnal mwy o archwiliadau a sicrhau cydymffurfiaeth well â mesurau diogelwch tân a gwagio’r adeilad.
Dywed yr arolygiaeth bod angen archwilio cyfarpar dadebru yn fwy rheolaidd hefyd.
Cafodd yr argymhellion eu mabwysiadu’n “brydlon ac effeithiol” gan y Byrddau Iechyd yn ôl yn yr Arolygiaeth.
Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Dros Dro Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru: “Mae'n amlwg bod y byrddau iechyd wedi gweithio'n galed iawn i gynllunio a pharatoi ar gyfer rhoi brechiadau yn eu rhanbarthau er mwyn helpu i ddiogelu pobl ledled Cymru rhag COVID-19.
“Drwy ein gwaith, roedd yn amlwg yn y mwyafrif helaeth o achosion fod y trefniadau sydd ar waith ar gyfer rhoi brechiadau yn ddiogel ac yn effeithlon, er gwaethaf maint, cyflymder a natur gymhleth y safleoedd a'r timau dros dro.”