Dwyn cerbydau: Cynnydd o 25% yng Nghymru a Lloegr

Roedd cynnydd o 25% yn nifer y cerbydau a gafodd eu dwyn yng Nghymru a Lloegr y llynedd, yn ôl ffigurau newydd.
Dangosodd data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol bod 130,389 o achosion o ddwyn cerbydau wedi eu cofnodi yng Nghymru a Lloegr yn 2022.
Roedd hyn yn gynnydd o 25% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, sef 104,435.
Dywedodd Gwasanaethau Yswiriant yr AA fod lladron yn defnyddio "amrywiaeth o ddulliau uwch-dechnoleg" er mwyn dwyn cerbydau.
Roedd yna hefyd 212,900 o achosion o ddwyn eiddo o gerbydau yn 2022, sy'n gynnydd o 10% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Mae gyrwyr yn cael eu cynghori i beidio â chadw pethau gwerthfawr yn eu cerbydau.
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr Gwasanaethau Yswiriant yr AA, Gus Park "fod y ffigurau hyn mewn perygl o fynd allan o reolaeth.
"Rydym yn erfyn ar benaethiaid heddlu a chomisiynwyr trosedd i greu cynllun gweithredu i ddatrys y broblem.