Newyddion S4C

Rhybudd am draffig yn ystod penwythnos Gŵyl y Banc

23/05/2023
traffig

Mae gyrwyr yn cael eu rhybuddio i ddisgwyl llawer o draffig yn ystod penwythnos Gŵyl y Banc. 

Mae arolwg barn gan yr RAC yn awgrymu y bydd yna 19.2 miliwn o deithiau dros benwythnos y Sulgwyn yn y DU. 

Mae disgwyl y traffig trymaf ddydd Gwener, gydag awgrym y gallai rhai teithiau gymryd hyd at deirgwaith yr amser arferol. 

Dywedodd llefarydd ar ran RAC Breakdown Rod Dennis: "Gyda'r cyfyngiadau teithio a ddigwyddodd yn ystod Covid bellach yn atgof pell, mae'n glir fod awydd gyrwyr i deithio wedi dychwelyd, gyda'n ffigurau ar gyfer y penwythnos sydd i ddod yn awgrymu y bydd nifer y teithau yn agos i lefelau 2019.

"Mae'r Swyddfa Dywydd yn darogan tymheredd yn uwch na'r cyfartaledd, felly rydym yn disgwyl y bydd hi'n gyfnod prysur ar nifer o'r priffyrdd wrth i bobl geisio gwneud y mwyaf o'r penwythnos hir olaf cyn mis Awst."

Eisteddfod yr Urdd

Bydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sir Gaerfyrddin yn dechrau yn Llanymddyfri ddydd Sul, ac mae mudiad yr Urdd yn annog ymwelwyr i ddilyn y canllawiau swyddogol er mwyn cyrraedd y maes yn ddiogel. 

Dywedodd Sian Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau: “Mae’r Maes bron yn barod ac mae’r Urdd yn edrych ymlaen at groesawu Cymru i Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin wythnos nesaf.  I hwyluso eich taith i Faes yr Eisteddfod, gofynnwn i bawb:

  • Ganiatáu digon o amser ar gyfer eich taith a'r daith gerdded i'r Maes.
  • I ddilyn yr arwyddion melyn pwrpasol ac i beidio crwydro oddi ar y llwybr sydd wedi ei nodi gan yr Eisteddfod.
  • Os ydych chi’n defnyddio sat-nav neu Google maps, i nodi Llanymddyfri yn y ddyfais ac nid côd post. 

“Mae manylion parcio a chyngor teithio pellach ar gyfer Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol Eisteddfod yr Urdd neu ein gwefan.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.