Newyddion S4C

Dedfrydu pâr priod am ddwyn £150,000 gan gogydd adnabyddus yn Y Fenni

22/05/2023
S4C

Mae llys wedi clywed bod pâr priod wedi mwynhau gwyliau teuluol dramor gydag arian oedd wedi’i ddwyn o fwyty’r cogydd enwog Stephen Terry.

Fe wnaeth Nicola Nightingale, 48, a Simon Nightingale, 50, ddwyn £150,000 gan gogydd y Great British Menu wrth weithio yn ei fwyty The Hardwick, yn Y Fenni.

Agorodd Mr Terry, sydd wedi hyfforddi fel cogydd o dan arweiniad Marco Pierre White y bwyty yn 2005, ac ers hynny mae wedi dod yn adnabyddus fel un o fwytai gorau’r wlad.

Cafodd Mr a Mrs Nightingale ddedfryd wedi ei gohirio am ddwy flynedd yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun.

Mae'r cogydd Stephen Terry wedi beirniadu'r ddedfryd yn hallt, gan ychwanegu ei fod wedi ei syfrdanu na chafodd y ddau eu carcharu. 

Image
newyddion
The Hardwick, yn Y Fenni. 

Clywodd y llys bod gan Mrs Nightingale, a gyflogwyd gan Mr Terry fel gweinyddwr ei swyddfa rhwng Chwefror 2018 a Mawrth 2020, broblemau alcoholiaeth ac iechyd meddwl a'i bod wedi defnyddio'r arian i ariannu ei dibyniaeth.

Dros gyfnod o ddwy flynedd, fe wnaeth y fam i bedwar o blant symud bron i £47,000 i gyfrif banc ei gŵr, gwneud taliadau uniongyrchol o fwy na £50,000 i’w chyfrif, cynyddu ei chyflog o £6,000 a gwneud taliadau chyfrinachol gwerth £47,000 iddi hi ei hun a dalwyd fel cyflogau.

Y cyfanswm a gafodd ei ddwyn o'r bwyty oedd £150,234.63.

Roedd dau fenthyciad o £40,000 yr un wedi eu cymryd allan yn enw Mr Terry heb ei ganiatâd.

Dywedodd yr erlynydd Tom Roberts: “Dechreuodd Nicola Nightingale weithio yno [The Hardwick] ar Chwefror 13 2018 a hi oedd yn gyfrifol am reoli cyfrifon a chyllid y busnes.

“Ym mis Mawrth 2020, wrth i’r wlad fynd i gyfnod clo, daeth Mr Terry yn amheus o’i hymddygiad.

“Cysylltodd ef a’i wraig â HSBC a chanfod bod taliadau wedi’u gwneud yn uniongyrchol i Mrs Nightingale y tu allan i’r strwythur talu arferol o tua £27,000 i ddechrau.”

Dywedodd Mr Roberts fod Mr Terry wedi ceisio cysylltu â Mrs a Mr Nightingale i gael y manylion mewngofnodi ar gyfer eu cyfrifon busnes ond ni wnaethant ymateb.

Y diwrnod canlynol ymddiswyddodd Mrs Nightingale trwy e-bost a chysylltodd Mr Terry â Heddlu Gwent, a ddechreuodd ymchwiliad.

Dyled

“Fe adawodd y bwyty gyda dyled o £70,000 a £6,000 mewn trethi busnes i gyflenwyr,” meddai Mr Roberts.

“Gadawodd y cwmni hefyd â dyled o £110,000 mewn trethi, a gadawodd y gronfa bensiwn £10,000 yn brin."

Yn ystod achos llys Mr Nightingale ym mis Chwefror eleni datgelwyd bod rhan o'r arian wedi'i wario ar nifer o wyliau tramor.

Image
newyddion
Stephen Terry.

Mewn datganiad a ysgrifennwyd ym mis Mehefin 2020 ac a ddarllenwyd i’r llys, dywedodd Mr Terry fod y twyll “o bosibl yn ddinistriol” i’w fusnes.

“Dros y 15 mlynedd diwethaf rwyf wedi gweithio’n galed iawn i adeiladu busnes llwyddiannus yn y fro a thrwy gydol yr amser hwn rwyf wedi gweithio’n dda gyda chyflenwyr ac wedi meithrin perthnasoedd gwaith cryf.

“Mae effaith cael eich twyllo gan swm mor sylweddol o arian a chael taliadau mawr heb eu talu i’m cyflenwyr yn gallu bod yn ddinistriol. Does dim dwywaith bod fy enw da a’m perthnasau gwaith yn cael ei niweidio.

“Oni bai am y pandemig, nid wyf yn sicr y byddwn wedi bod yn ymwybodol o’r twyll. A chredaf na fyddai’r busnes wedi goroesi’r golled ariannol hon.”

Dywedodd Mr Terry ei fod ers hynny wedi gorfod cymryd benthyciadau i dalu ei gyflenwyr a'i weithwyr yn ôl.

'Problemau eithafol'

Dywedodd Susan Ferrier, wrth amddiffyn Mrs Nightingale, fod gan ei chleient “broblem eithafol gydag alcoholiaeth ac iechyd meddwl” a bod y problemau hynny, gyda thrafferthion priodas blaenorol a cholli ei brawd ieuengaf, wedi achosi iddi fynd yn gaeth i brynu pethau fel modd o ymdopi.

Dywedodd Ms Ferrier fod Mrs Nightingale yn “difaru’n fawr” am y swm yr oedd wedi’i ddwyn.

Dywedodd fod Mrs Nightingale, sydd bellach yn fam-gu, yn risg isel o aildroseddu a chododd bryderon ynghylch sut y byddai’n ymdopi yn y carchar o ystyried ei chyflwr “bregus”.

Clywodd y llys fod Mrs Nightingale wedi ceisio ddwywaith yn ddiweddar i ladd ei hun.

Dywedodd amddiffyniad Mr Nightingale, dan arweiniad Martin Taylor, fod y diffynnydd yn derbyn ei “esgeulustod” a’i fod yn “difaru’n fawr am adael i’r sefyllfa hon fod wedi codi”.

Cafodd Mrs Nightingale, a blediodd yn euog i dwyll, a Mr Nightingale, a gafwyd yn euog o fod ag eiddo troseddol yn ei feddiant ar ôl achos llys, ddedfryd ohiriedig o ddwy flynedd a gorchmynwyd y ddau i gwblhau 100 awr o waith di-dâl.

Dywedodd y Barnwr Clarke y byddai anfon y ddau ddiffynnydd i’r carchar wedi cael “effaith barhaol, negyddol arnyn nhw [y plant] ac ar eu datblygiad”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.