Covid-19: Pryder fod gofal iechyd meddwl yn anoddach i’w gael

Covid-19: Pryder fod gofal iechyd meddwl yn anoddach i’w gael
Gyda’r cyngor yn parhau i annog pobl i gael apwyntiadau meddyg teulu drwy wasanaethau ar-lein neu dros y ffôn yn unig, mae pryder bod derbyn gofal iechyd meddwl yn “lot anoddach” nag oedd cyn cyfnod Covid-19.
Yn siarad gyda rhaglen Newyddion S4C, dywedodd Hannah Davies: “Fel un sydd wedi bod yn siarad yn eitha cyson gyda doctoriaid am iechyd meddwl fi, cyn ac yn ystod Covid, fi’n gweld e lot yn anoddach nawr i cal y sylw sydd ishe i gwella ynghanol y pandemig ma’ na beth oedd e cyn Covid.”
“Achos o blaen, bydde ti’n mynd mewn i siarad ‘da doctor wyneb yn wyneb , a bydde ti’n cal y sylw, bydde nhw’n gwrando, alli ti siarad am faint ti moyn siarad, alli di ddweud popeth sy’n mynd drwy pen ti. Bach fel cwnsela run pryd, so ti’n cael fwy o help na jyst gweud, ‘co ti, cer i cael antidepressants’.”
Mae’r Llywodraeth yn dweud eu bod yn cadw golwg ar y sefyllfa, ond yn mynnu y dylai pobl barhau i geisio defnyddio gwasanaethau ar-lein neu dros y ffôn am y tro.
'Hollol wahanol i bod wyneb i wyneb'
Ychwanegodd Ms Davies: “Dwi’n teimlo ar y ffôn bod y doctoriaid yn rushian chi falle bach. Jysd achos fel fi’n deall bod lot o bobl ‘da nhw i weld nawr, ac ofiysli mae lot mwy o bobl efo problemau iechyd meddwl ar ôl y lockdown.
“Sai’n rhoi bai arno neb, ond ma’ fe’n hollol wahanol i bod yn wyneb i wyneb, achos ti jysd yn cael mwy o sylw pan ti’n gweld rhywun. A ie, fi’n teimlo fel so ti’n gallu dweud popeth dros y ffon achos ti’n teimlo fel bo ti’n cymryd lan amser rhywun arall.
Dywed cymdeithas feddygol y BMA fod cynnydd mawr wedi bod yn y galw am apwyntiadau meddyg teulu.
Yn ôl Dr Iestyn Davies, Meddyg Teulu: “Ni’n gweld bod yna tua 30% mwy o ofynion wrth ein cleifion ni nawr o’i gymharu â 12 mis yn ôl felly mae cryn dipyn o bwysau ar feddygon teulu yn gyffredinol ar hyn o bryd.”