Y Ceidwadwyr Cymreig yn cyhoeddi cabinet cysgodol

27/05/2021
Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies.
Arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Andrew RT Davies.

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies AS, wedi cyhoeddi cabinet yr wrthblaid yn y Senedd.

Y Ceidwadwyr Cymreig yw’r brif wrthblaid yn y siambr wedi iddyn nhw ennill 16 sedd yn yr etholiad ddechrau mis Mai. 

Wrth gyhoeddi ei dîm newydd, dywedodd Mr Davies eu bod yn “llawn egni a syniadau” a'i fod yn “gyffrous i weld cabinet cysgodol newydd yn llawn talent ac arbenigedd o’r tu allan i’r Senedd yn ymuno â’r frwydr wleidyddol yng Nghymru”.

Russell George AS sy’n camu i rôl y Gweinidog Iechyd, wedi i Angela Burns gamu o’r neilltu cyn yr Etholiad.

Fe fydd Paul Davies AS yn gwasanaethu fel Gweinidog yr Economi.  Mae’n dychwelyd i’r cabinet am y tro cyntaf ers iddo ymddiswyddo fel arweinydd y grŵp fis Ionawr yn dilyn ffrae am yfed ar dir y Senedd pan oedd cyfyngiadau ar werthu alcohol ar waith.

Laura Anne Jones AS fydd yn camu i rôl y Gweinidog Addysg yn lle Suzy Davies sydd heb barhau fel Aelod o’r Senedd ers yr etholiad.  Samuel Kurtz AS fydd yn mabwysiadu ei chyfrifoldebau dros y Gymraeg.

Ychwanegodd Andrew RT Davies AS: “Ein prif flaenoriaeth fydd gweithio er budd y genedl i warchod bywoliaethau a sicrhau bod ein heconomi yn dechrau ar y ffordd tuag at adferiad ac ein bod yn ail-adeiladu’n well wedi’r cyfnod mwyaf heriol i ni ei weld ym Mhrydain mewn cyfnod o heddwch.

“Bydd fy nhîm yn gwneud yr hyn mae teuluoedd, gweithwyr a busnesau yng Nghymru yn dymuno ei weld gennym – dal Llafur i gyfrif, cynnig dewisiadau polisi positif wrth i ni greu dewis amgen go iawn a sicrhau ein bod, drwy wrthblaid gref, yn darparu llywodraeth well”.

Cabinet wrthblaid:

Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig – Andrew RT Davies

Prif Chwip a Gweinidog Cysgodol dros y Cyfansoddiad a Gogledd Cymru – Darren Millar

Dirprwy Brif Chwip a Gweinidog Cysgodol dros Gydraddoldebau – Altaf Hussain

Gweinidog Cysgodol dros Newid Hinsawdd – Janet Finch-Saunders

Gweinidog Cysgodol dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon – Tom Giffard

Gweinidog Cysgodol dros yr Economi – Paul Davies

Gweinidog Cysgodol dros Addysg – Laura Jones

Gweinidog Cysgodol dros Gyllid– Peter Fox

Gweinidog Cysgodol dros Iechyd– Russell George

Gweinidog Cysgodol dros Llywodraeth Leol– Sam Rowlands

Gweinidog Cysgodol dros Iechyd Meddwl, Llesiant a Chanolbarth Cymru – James Evans

Gweinidog Cysgodol dros Faterion Gwledig a’r Iaith Gymraeg – Samuel Kurtz

Gweinidog Cysgodol dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chwnsler Cyffredinol Cysgodol – Mark Isherwood

Gweinidog Cysgodol dros Bartneriaeth Gymdeithasol – Joel James

Gweinidog Cysgodol dros Wasanaethau Cymdeithasol – Gareth Davies

Gweinidog Cysgodol dros Drafnidiaeth a Thechnoleg – Natasha Asghar

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.