Newyddion S4C

Suella Braverman wedi’i chyhuddo o geisio osgoi pwyntiau am yrru’n rhy gyflym

21/05/2023
Suella Braverman - Llun- Senedd y DU

Mae’r Ysgrifennydd Cartref Suella Braverman wedi’i chyhuddo o ofyn i weision sifil ei helpu i osgoi cael pwyntiau at ei thrwydded yrru ar ôl cael ei dal yn gyrru'n rhy gyflym.

Mae’r Sunday Times yn adrodd fod Mrs Braverman wedi gofyn i staff yn y Swyddfa Gartref i’w helpu trefnu cwrs ymwybyddiaeth cyflymdra iddi hi yn unig.

Fe wrthododd swyddogion y cais, ac yn ôl adroddiadau, fe wnaeth Mrs Braverman droi at gynorthwyydd gwleidyddol i geisio ei helpu dod at drefniant lle na fyddai’n gorfod mynychu cwrs gyda gyrwyr eraill.

Roedd hynny’n cynnwys y posibilrwydd o gwblhau cwrs ar-lein dan ffug enw, neu gyda'r camera wedi ei ddiffodd.

Cafodd ei dal yn gyrru tu allan i Lundain tra’n Dwrnai Cyffredinol haf diwethaf.

Yn y pen draw, fe benderfynodd derbyn y tri phwynt ar ei thrwydded.

Mae pleidiau Llafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am ymchwiliad i’r honiadau ond yng nghynhadledd y G7 yn Hiroshima, ni wnaeth y Prif Weinidog Rishi Sunak gadarnhau os byddai un yn cael ei gynnal.

Fe ddywedodd ei bod wedi “mynegi edifarhad”, ond ei fod heb siarad gyda hi eto am y mater.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol dros Lafur: “Rydyn ni angen ymchwiliad ar unwaith mewn i beth sydd wedi digwydd yma, gan gychwyn gyda Laurie Magnuss yn edrych sut y mae hyn yn ffitio i mewn gyda’r cod gweinidogol”.

Ni fydd ymgynghorydd moeseg Mr Sunak, Sir Laurie Magnuss yn gallu lansio ymchwiliad heb gymeradwyaeth y Prif Weinidog.

Fe ddywedodd ffynhonnell yn agos i Mrs Braverman fod y tocyn gyrru wedi ei adrodd ar y pryd i’r Swyddfa’r Cabinet.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.