Dyn wedi marw ar ôl dioddef ymosodiad gan gi

Mae dyn 37 oed wedi marw ar ôl i gi ymosod arno yn Leigh, Manceinion.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar Heol Westleigh tua 21:00 nos Iau gan ddod o hyd i ddyn ag anafiadau difrifol oedd wedi eu hachosi gan gi peryglus oedd allan o reolaeth.
Cafodd y dyn ei gludo i'r ysbyty ond bu farw yn oriau mân fore Gwener.
Fe gafodd y ci ei saethu'n fawr gan swyddogion arfog yr heddlu.
Mae dyn 24 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o fod yn berchen ar gi peryglus oedd allan o reolaeth gan achosi anaf a arweiniodd at farwolaeth.
Mae'n parhau yn y ddalfa.
Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Simon Hurst o Heddlu Manceinion: “Yn gyntaf, hoffwn estyn fy nghydymdeimlad i deulu dioddefwr yr ymosodiad hwn.
“Mae ein swyddogion a’n partneriaid ar hyn o bryd yn cefnogi teulu y dioddefwr ar yr amser hynod anodd hwn.
“Rydym yn annog aelodau’r cyhoedd i ddod ymlaen os oes ganddynt unrhyw wybodaeth am y digwyddiad hwn. Gall unrhyw wybodaeth sydd gennych fod o gymorth mawr i'n hymchwiliad.
“Mae hwn yn ddigwyddiad trasig sydd wedi arwain at farwolaeth drist y dyn yma ac rydym yn benderfynol o sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto yn ein cymuned.”