Newyddion S4C

Afon Tywi

Cynnydd yn nifer y bobl o dan 20 oed yn boddi'n ddamweiniol yng Nghymru

NS4C 19/05/2023

Mae cyngor ar bobl i ddilyn canllawiau diogelwch o amgylch dŵr agored yn sgil cynnydd yn nifer y bobl iau sydd wedi boddi yn ystod y 12 mis diwethaf.

Daw’r cyngor gan grŵp Diogelwch Dŵr Cymru wedi i’r nifer uchaf o bobl dan 20 oed farw’n ddamweiniol o ganlyniad i foddi. 

Bu farw pedwar unigolyn o dan 20 oed y llynedd o ganlyniad i foddi'n ddamweiniol - y nifer uchaf o farwolaethau damweiniol mewn dŵr agored yng Nghymru ers i ddata gael ei gofnodi gan y Fforwm Diogelwch Dŵr Cenedlaethol yn 2015.

Roedd 22 o achosion o foddi ledled y wlad y llynedd, sef gostyngiad o’r 26 fu farw yn ystod y flwyddyn flaenorol. 

Gofal

Gyda'r rhagolygon yn awgrymu fod tywydd braf ar y gorwel, mae Chris Cousens, Cadeirydd Diogelwch Dŵr Cymru yn annog pobl i gofio am y peryglon o nofio’n agored.

Dywedodd Mr Cousens: “Roedd pawb yn gysylltiedig â Diogelwch Dŵr Cymru yn drist iawn i glywed am y digwyddiadau trasig yn ymwneud â phobl ifanc yn colli eu bywydau mewn dŵr agored yng Nghymru y llynedd.

“Credwn fod un achos o foddi’n ormod ac ni ellir bychanu effaith colli person ifanc o ganlyniad i foddi. Dylai pobl o bob oed ddysgu a chofio’r pedwar canllaw diogelwch allweddol hyn i blant a phobl ifanc, a dylai oedolion siarad â’u plant amdanynt.

“Bydd mwy o bobl ifanc yn ymweld â’r môr, afonydd, cronfeydd dŵr, llynnoedd a lleoliadau dŵr agored eraill yn ystod yr wythnosau a’r misoedd i ddod wrth i’r tywydd wella ac ysgolion dorri ar gyfer gwyliau’r haf. Mae’r dŵr yn dal i fod yn ddigon oer i sbarduno sioc dŵr oer, sef adwaith naturiol y corff i ddŵr oer sy’n gallu achosi panig ac ebychu am aer. 

Ledled y DU bu gostyngiad cyffredinol yn y nifer o achosion o foddi gyda 226 o farwolaethau damweiniol yn digwydd y llynedd, sef 56 o achosion yn llai na’r flwyddyn flaenorol. 

Ond yn sgil y cynnydd yn nifer marwolaethau pobl o dan 20 oed o ganlyniad i foddi, mae Diogelwch Dŵr Cymru yn annog pawb i ddilyn canllawiau i sicrhau diogelwch gan gynnwys: 

·      Pwyllwch: A yw’n lle diogel i nofio? 

·      Arhoswch gyda’ch gilydd: Ewch gyda rhywun arall bob amser.

·      Arnofiwch: Os byddwch mewn trafferth yn y dŵr, arnofiwch.

·      Galwch 999 neu 112: Os byddwch yn gweld rhywun arall mewn trafferth yn y dŵr.

Llun: Philip Hailling

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.