
Arfon Wyn yn annog cynghorwyr i gydnabod ‘arwyr tawel’ eu cymunedau

Mae’r cynghorydd a’r canwr adnabyddus Arfon Wyn yn annog cynghorwyr eraill i gydnabod ‘arwyr tawel’ cymunedau ar draws Cymru.
Yn gynghorwr dros ardal Bro Aberffraw, Ynys Môn mae Arfon Wyn wedi dechrau cyfres ‘Arwr y fro’.
Bob mis bydd aelod o’r gymuned yn derbyn tarian i gydnabod eu gwaith neu eu dewrder.
Mae Arfon Wyn ei hun yn dewis aelodau, ond mae hefyd yn derbyn enwebiadau gan aelodau o’r gymuned.
"O’n i yn teimlo bod ‘na lot o bobl gyffredin allan yna yn gwneud pethau diddorol, ffeind a clên de, a phethau oedd yn haeddu cael sylw,” meddai wrth Newyddion S4C.
“O’n i yn teimlo bod hi’n bwysig bod gennym ni arwyr yn y gymuned.”
Cydnabyddiaeth
Fe gafodd Arfon Wyn y syniad ar ôl sgwrs gyda dyn lleol wnaeth awgrymu bod cynghorwyr ond i’w gweld yn y gymuned wrth ymgyrchu cyn etholiad.
“Dyma fi’n deud dwi erioed wedi trio mewn etholiad o’r blaen ond nai drio gwneud yn siŵr bod chi’n gweld fi yn amlach.
“Nath o ysgogi fi i fod yn fwy agos at y bobl, dyna ydi hyn mwn ffordd.
“O’n i yn teimlo bod hi’n bwysig gwneud i bobl deimlo'n werthfawr. Mae un neu ddau o bobl wedi neud pethau arwrol ac mi ydan ni isio rhoi sylw iddyn nhw.”
Yn ôl Arfon Wyn, pwrpas y gwobrau ydy gobeithio tynnu sylw at “bobl ddistaw sydd ddim yn cael eu cydnabod.
“Mae ‘na lot o gynghorwyr ledled Cymru yn gofyn i mi sut dwi’n mynd o’i chwmpas hi de.
“Dwi meddwl mai newyddion y dydd yn gallu bod mor ddigalon does 'na ddim digon o sylw i’r newyddion da a’r pethau cadarnhaol sy’n digwydd yn y gymdeithas.”

Mae amrywiaeth o bobl wedi derbyn y wobr fisol erbyn hyn ac mae llawer mwy i ddod, meddai.
“Mae 'na gymaint o wahanol o bobl wedi cael gwobrau.
“Y diweddaraf ydy tîm o bobl sy’n golchi dillad ac yn cefnogi tîm pêl droed Aberffraw mewn ffordd ymarferol. Maen nhw wedi derbyn gwobr ar y cyd.
“Mis nesa byddai’n rhoi gwobr i ddyn sydd wedi arwain clwb chwarae ukulele, ac mae plant yn ardal Llangaffo wedi derbyn y wobr am gasglu sbwriel.”
'Arwyr tawel'
Mae Arfon Wyn yn credu y byddai’n dda gweld arwyr bro ym mhob ardal ar draws Cymru.
Ychwanegodd: “Mewn ffordd mae o neud yn siŵr bod cynghorwr o gwmpas drwy’r flwyddyn hefyd yn de.
“Dwi isio cydnabod pobl sy’n gwneud yn dda a phobl dwi’n edmygu.
“Dwi’n gobeithio y bysa hyn yn gallu gweithio mewn ardaloedd eraill de, a rhoi clod i bobl sydd wedi goresgyn anawsterau a phobl sydd wedi rhoi gymaint i gymunedau heb gydnabyddiaeth.
“Arwyr distaw - a dwi’n falch iawn o’i gweld nhw yn cael eu haeddiant. Mae’r neges yn mynd yn bell.”