Newyddion S4C

Dean Anthony Rees

Carcharu dyn o Abertawe am dagu ei bartner

NS4C 18/05/2023

Mae dyn o Abertawe wedi ei garcharu am dagu ei bartner yn fwriadol ar ôl iddi hi lwyddo i alw’r heddlu yn ystod yr ymosodiad. 

Dedfrydwyd Dean Anthony Rees, 48 oed, o Ffordd Caeconna, i ddwy flynedd yn y carchar a bu hefyd yn derbyn gorchymyn yn ei atal rhag cysylltu gyda’r dioddefwr am bum mlynedd. 

Fe gafodd Heddlu Dyfed Powys eu galw i gartref y dioddefwr yn ystod oriau man y bore ar ôl i swyddog yng nghanolfan galwadau'r heddlu derbyn galwad ffôn a chlywed llais y fenyw yn gofyn i rywun adael ei thŷ. 

Roedd y fenyw hefyd yn ei chlywed yn dweud: “Stopiwch, dwi heb wneud unrhyw beth.”

Dywedodd y dioddefwr bod Rees wedi gorfodi ei ffordd i mewn i’w thŷ ac yna ei chyhuddo a'i thagu ddwywaith. 

Cafodd Rees ei arestio am dagu bwriadol, dan Ddeddf Cam-drin Ddomestig 2022, a hynny o fewn hanner awr i’r alwad cael ei wneud i’r heddlu. 

Mae’r dioddefwr yn derbyn cymorth yn dilyn y digwyddiad. 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.