Arestio naw o bobl yn dilyn cyfres o fyrglyriaethau mewn cymunedau yng Ngwynedd

Mae naw o bobl wedi eu harestio yn dilyn cyfres o fyrgleriaethau mewn cymunedau gwledig yng Ngwynedd.
Dywedodd Uned Troseddau Difrifol a Thîm Trosedd Gwledig Heddlu Gogledd Cymru eu bod wedi cyflawni nifer o warantau yn Sir Amwythig ac yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr ym mis Chwefror gyda Heddlu Dyfed Powys a Heddlu Gorllewin Mersia fel rhan o Ymgyrch Calafat.
Roedd hyn yn sgil adroddiadau o ddwyn peirianweithiau amaethyddol o ansawdd uchel a beiciau cwad mewn ardaloedd gwledig gan gynnwys Tywyn, Dolgellau a'r Bala.
Cafodd nifer o eitemau eu canfod yn ystod yr ymchwiliad.
Mae wyth dyn ac un ddynes wedi cael eu cyhuddo o gynllwynio i gyflawni byrgleriaethau gyda'r bwriad o ddwyn rhwng mis Awst 2022 a mis Mawrth 2023.
Bydd Wayne Price, 30, a Nicole Price, 31, o'r Amwythig; Dean Rogerson, 32, o Much Wenlock; Neil Shevlin, 30, o Shifnal; Ryan Taylor, 30, o Telford; Nial Lloyd, 25, o Broseley; Glenn Beresford, 20, o Netherto; Brad Skidmore, 18, o Stourbridge; a Liam Griffiths, 31, o Pensnett yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Llandudno ar 1 Mehefin.