Newyddion S4C

Cwymp Football Index: Y Comisiwn Gamblo yn 'esgeulus', yn ôl AS Cymreig

ITV Cymru 26/05/2021

Cwymp Football Index: Y Comisiwn Gamblo yn 'esgeulus', yn ôl AS Cymreig

Ni ddylai’r Comisiwn Gamblo fyth a bod wedi rhoi trwydded i gwmni betio Football Index, yn ôl yr Aelod Seneddol Carolyn Harris.

Roedd y cwmni’n hyrwyddo’i hun fel ‘marchnad stoc’ y byd pêl-droed, gyda defnyddwyr yr ap yn prynu a gwerthu cyfranddaliadau mewn chwaraewyr pêl-droed er mwyn gwneud arian.

Ond fis Mawrth, fe aeth y cwmni i ddwylo’r gweinyddwyr, ac fe gollodd defnyddwyr mwy na £90 miliwn rhyngddyn nhw.

Yn ôl y Comisiwn Gamblo, doedden nhw ddim yn gyfrifol am reoleiddio’r gwasanaeth gan fod natur y cwmni wedi newid ar ôl trwyddedu.

Mewn cyfweliad gyda rhaglen materion cyfoes ‘Y Byd ar Bedwar’ mae Carolyn Harris AS, sy’n Gadeirydd y Pwyllgor Trawsbleidiol ar niwed sy’n gysylltiedig â gamblo, yn dweud bod y Comisiwn Gamblo wedi methu gwarchod defnyddwyr Football Index.

“Ddylai’r Comisiwn Gamblo fyth wedi rhoi trwydded i gwmni betio Football Index yn y lle cyntaf.”

“Roedd pobl yn buddsoddi ac ail-fuddsoddi arian heb sylweddoli eu bod nhw, i bob pwrpas yn gamblo.”

“Erbyn i’r cwmni fynd i’r wal, fe ddylai’r Comisiwn Gamblo wedi dod â Football Index i ben yn barod, a chanfod ffordd i helpu'r rheiny sydd wedi cael eu heffeithio.”

Roedd Football Index yn honni bod ganddyn nhw 500,000 o ddefnyddwyr - un o’r rheiny yw Luc Thomas o Waunfawr yng Ngwynedd.

Image
Luc Thomas

“Mae’n siŵr bod gen i tua £750 i mewn erbyn y diwedd.”

“Roedd pethau’n mynd yn dda ar y pryd, oeddwn ni’n gwneud dipyn o bres. Dw i’m yn gweld bai ar fy hun felly, achos mae ‘na filoedd wedi disgyn am yr un ‘sgam’, mewn ffordd.”

Roedd Luc yn bwriadu rhoi ei arian Football Index at brynu tŷ.

 “Ma colli dipyn o bres felma yn dipyn o setback - dwi gwbod bod o ddim yn mynd i brynu tŷ i fi, ond mae o dal yn help at deposit...dw i’m yn gweld ni’n ca’l dim byd ‘nôl a dweud y gwir.”

Ar ôl lansio yn 2015, fe dyfodd poblogrwydd y cwmni’n sydyn. Erbyn 2020, roedden nhw’n ymddangos fel noddwyr crysau clybiau Queens Park Rangers a Nottingham Forest yn y Bencampwriaeth.

Ond, fis Mawrth eleni, cyhoeddodd y cwmni eu bod nhw’n lleihau ‘dividends’ yn sylweddol, sef taliadau ychwanegol os oedd eich chwaraewyr yn perfformio’n dda.

Rhai diwrnodau yn ddiweddarach, aeth Football Index i ddwylo’r gweinyddwyr.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig nawr wedi cyhoeddi ymchwiliad i gwmni Football Index a’r ffordd mae cyfreithiau gamblo'r Deyrnas Unedig yn cael eu rheoleiddio. Dyw’r cyfreithiau presennol heb gael eu newid ers 2005.

Mae gweinyddwyr y cwmni ynghanol gwrandawiad yn yr Uchel Lys i drafod sut i rannu £4.5m o arian sydd ar ôl yng nghronfa amddiffyn chwaraewyr y cwmni. Mae’r £4.5m yn swm o arian oedd yng nghyfrifon defnyddwyr oedd heb gael ei ‘fuddsoddi’ mewn chwaraewyr.

Yn ôl y gweinyddwyr, eu bwriad yw rhannu’r £4.5m rhwng defnyddwyr Football Index. Ond i lawer o ddefnyddwyr, mi fyddai’r ad-daliad yn swm bychan iawn o gymharu â’r arian maen nhw wedi ei fuddsoddi.

Cyn y gwrandawiad, fe gyhoeddodd y gweinyddwyr ddogfen yn nodi’r hyn maen nhw wedi’i ddarganfod. Mae’n dangos bod y cwmni’n gwneud colled yn Rhagfyr 2020, ac yn dal i honni eu bod nhw mewn sefyllfa gref yn ariannol yn Chwefror 2021.

Yn ôl y Comisiwn Gamblo, wedi iddyn nhw roi trwydded i BetIndex, sef gweithredwr Football Index, yn 2015, fe ddatblygodd y cwmni i fod yn rhywbeth newydd a chymhleth.

‘Doedd rhannau o’r cwmni ddim, felly, yn dod o dan ddiffiniad ‘gamblo’ ac felly ddim yn rhan o’u cyfrifoldeb.

Image
Football Index

Mewn datganiad, dywedodd cyfarwyddwr Football Index, Adam Cole:

"Mae Football Index yn siomedig iawn am yr hyn sydd wedi digwydd i gwsmeriaid, ac yn deall y dicter, y llid a'r golled a deimlir herwydd. 

"Y cyfan allwn ni ei wneud fel tîm nawr yw ymladd am y canlyniad gorau i'r cwsmeriaid hynny. Rydym yn cydweithredu'n llawn gyda'r gweinyddwyr a'u hymchwiliad."

Mae gweinyddwyr Football Index yn dweud y bydd rhagor o fanylion am ad-dalu’r £4.5 miliwn unwaith y bydd y barnwr yn yr Uchel Lys wedi dod at benderfyniad.

Y Byd ar Bedwar, 26 Mai, 20:25.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.