Newyddion S4C

'Dim lle i hiliaeth': Cyhoeddi Neges Heddwch yr Urdd

18/05/2023

'Dim lle i hiliaeth': Cyhoeddi Neges Heddwch yr Urdd

Mae Urdd Gobaith Cymru yn galw ar bobl ledled y byd i fynd i’r afael â hiliaeth fel rhan o’i draddodiad blynyddol o rannu neges Heddwch ac Ewyllys Da. 

Wedi’i chreu ar y cyd gan y cerddor Eädyth, Swyddog Cynnwys Addysg S4C Natalie Jones a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, nod y neges gwrth-hiliaeth eleni yw i “alw allan hiliaeth” ar bob achlysur. 

Fel rhan o’i draddodiad 101-mlynedd oed, bydd yr Urdd yn rhannu ei neges fore Iau ar ffurf ffilm fer er mwyn mynd i’r afael â rhagfarnau gan annog “caredigrwydd” a “dysgu i dderbyn.”

Wrth siarad â Newyddion S4C am y profiad o lunio’r neges eleni, dywedodd Siân Lewis, Prif Weithredwraig Urdd Gobaith Cymru, mai cynrychioli pob un llais y wlad oedd ei nod.

“Mae’r Urdd heddiw yn Urdd i bawb, Urdd sy’n adlewyrchu’r Cymry newydd, Urdd gynhwysol, Urdd teg ac Urdd amrywiol. 

“Mae’n bwysig dwi’n meddwl bod ni fel mudiad, nid yn unig yn siarad ond hefyd yn gweithredu ac mae ‘na sawl canllaw o weithredu gyda ni o heddiw ‘ma mewn ffordd.”

Er mwyn lledaenu’r neges ‘Galw. Nhw. Allan’ fe fydd ymgyrch i ymweld ag Alabama yn yr UDA ym mis Hydref lle bu’r grŵp sy’n rhan o gynrychioli’r neges yn dysgu mwy am hawliau sifil ac ymgyrchoedd gwrth-hiliaeth dramor. 

Dywedodd Siân Lewis: “Be’ ‘dyn ni’n falch am dros y blynyddoedd bod y neges wedi cynyddu yn ei ddiddordeb – dros y blynyddoedd diwethaf ‘dyn ni wedi gweld y neges yn cyrraedd cynulleidfa dros 80 miliwn o bobl, mae ‘di gael ei gyfieithu mewn i 101 o ieithoedd, mae ‘di gael ei rhannu gan dros 80 o wledydd.

‘Neges glir’

Yn sgil hynny mae’r neges yn un “glir,” meddai. 

“Yn syml y neges yw bod does dim lle i hiliaeth yn y byd. Rhaid i ni herio rhagfarn ddiarwybod a galw pobl allan. 

“Dydy o ddim yn ddigon da i fod yn wrthwynebus i hil erbyn hyn, mae’n bwysig bod ni hefyd, fel unigolion, yn codi ein lleisiau ni.”

Mewn ymateb i’r neges a ddewiswyd gan ieuenctid Cymru eleni, mae’r Urdd wedi ymrwymo i weithredu trwy gynnig hyfforddiant gwrth-hiliaeth i’w staff yn barhaus a sicrhau fod cynrychiolaeth amrywiol i’w weld o fewn y mudiad a’r gweithlu.

Bydd yr Urdd hefyd yn darparu hyfforddiant i staff gwersylloedd Caerdydd, Llangrannog, Glan-llyn a Phentre-Ifan ar sut i edrych ar ôl gwallt affro unigolion. 

Dywedodd yr Athro Damien Walford Davies, Dirprwy Is-Ganghellor o Brifysgol Caerdydd: “Mae aelodau staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn eilio’r pwyslais ar wrth-hiliaeth sy’n nodweddu neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd eleni. 

“Ysgwydd-yn-ysgwydd â’r Urdd, rydym yn herio ein hunain yn ogystal ag eraill i brofi, drwy weithredoedd, ein bod yn wrth-hiliol.” 

Ychwanegodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Mae neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd yn parhau i chwarae rhan annatod wrth gyflwyno gwerthoedd Cymru ledled y byd. 

"Mae'r neges bwysig hon yn rhan o weledigaeth Llywodraeth Cymru i fod yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030 - man lle gallwn ni oll fyw a ffynnu, gan greu cymdeithas lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi." 

Bydd y neges yn cael ei darparu ar ran ieuenctid Cymru mewn sawl un iaith gan gynnwys BSL, a hynny wedi’i chefnogi gan Gyngor Hil Cymru a Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig Cymru eleni.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.