
Gwrthwynebiad i droi cae chwarae yng Ngwynedd yn rhandiroedd
Gwrthwynebiad i droi cae chwarae yng Ngwynedd yn rhandiroedd

Mae yna wrthwynebiad cryf gan rai o drigolion pentref yng Ngwynedd i gynllun i droi cae chwarae yn rhandiroedd.
Gobaith menter leol Siop Griffiths ydy troi hen gae chwarae ‘Cwtin’ ym Mhenygroes ger Caernarfon yn 15 rhandir, gan logi'r cae gan y Cyngor Cymuned.
Mae’r cynlluniau wedi gwylltio rhai trigolion, sydd wedi ffurfio grwp o'r enw "Ffrindiau Cwtin" i frwydro yn erbyn y cynlluniau.
Ond yn ôl menter Siop Griffiths mae canlyniadau ymgynghoriad lleol yn dangos bod yna awydd am y fath cynllun.
‘Cae chwarae olaf y pentref’
O’r gair Saesneg ‘cutting’ y daw’r enw Cwtin. Roedd y tir yn arfer bod yn rhan o’r hen reilffordd. Ond yn 1948 prynodd y Cyngor Cymuned y tir am £50 i ddarparu cae chwarae cyhoeddus i’r pentref.
Er nad ydi o wedi cael ei ddefnyddio'n swyddogol ers rhai blynyddoedd bellach, mae rhai trigolion yn erbyn y cynllun i’w droi’n rhandiroedd. Mae nhw eisiau gweld cae chwarae ar dir Cwtin unwaith eto.
Un o’r rheiny ydy Gavin Parry, sy’n byw ger y cae.

“Fues i yma'n aml iawn pan o'n i'n fach, o'n i'n dod yma efo ffrindiau i chwarae yn y cae," meddai. "Pan ddaeth y newyddion allan bod nhw'n meddwl neud be oedden nhw'n meddwl neud o'n i'n meddwl bod o’n warthus i fod yn onest. Dyma gae chwarae cyhoeddus olaf y pentref o beth dwi’n deall felly byddai ei golli yn gadael ni heb unrhyw le i blant chwarae chwaraeon am ddim. Mae angen cae chwarae ar bob pentref."
Mae un o gymdogion Mr Parry, Alan Roberts yn cytuno ac yn teimlo nad oed digon o gyfathrebu gyda’r gymuned wedi bod am y cynllun.

"Y peth cyntaf wrth greu rhywbeth fel yma ydi cyfathrebu a sicrhau bod trigolion lleol yn cael gwybod am hyn a mynegi barn. Chawsom ni ddim hynny a dyna pam fod pobl wedi bod yn gandryll am yr holl beth. "
Mae menter Siop Griffiths yn arwain ar sawl prosiect o fewn Penygroes yn barod, gan gynnwys rhedeg caffi'r orsaf.

Mae’r fenter yn dweud bod ymgynghoriad lleol y llynedd yn dangos bod 'na awydd am gynllun o'r fath, a’u bod nhw wedi cynnal cyfarfodydd gyda phobl leol dros y misoedd diwethaf i drafod unrhyw pryderon.
Dywedodd Hwylysydd Bwyd a Lles Siop Griffiths Gwenllian Spink: “Mae canlyniadau’r ymgynghoriad yn dangos fod yna alw am fwy o fannau gwyrdd cymunedol yn Nyffryn Nantlle. Gwnaeth 97% dweud bod nhw'n gweld budd i gerddi a mannau gwyrdd cymunedol, yn enwedig oherwydd yr argyfwng hinsawdd. O'dd 96% wedi nodi bod nhw isho dysgu mwy o sgiliau tyfu bwyd, a oedd 38 unigolyn wedi nodi diddordeb cael rhandir. Felly ni’n gobeithio bydd y cynllun yma, os yn digwydd, o fydd i’r gymuned yma ym Mhenygroes.”
Mae cais llawn Siop Griffiths yn cynnwys pymtheg llain i dyfu ffrwythau a llysiau, ardal ar gyfer planhigion gwyllt, sied gymunedol a thanciau dwr, gyda grant ar gael trwy'r cyngor cymuned i gwblhau'r gwaith.
Mae Ffion Higgs yn byw’n lleol ac yn cefnogi’r cynllun.

"Mae'r cynllun sydd 'da nhw i neud yn syniad hyfryd i jyst darn o dir sydd ddim yn cael ei ddefnyddio felly fi'n siŵr fydd o'n lyfli i fi ag Elin fach i blannu pethau. Jyst neud e'n weithgaredd teuluol. Felly bydden i siŵr yn defnyddio fe."
Wrth ymateb i'r sefyllfa, cywedodd y cynghorydd lleol Craig aB Iago wrth Newyddion S4C: “Dwi wedi clywed gan bobl ar y ddwy ochr. Mae yna rhai sydd yn erbyn y cynlluniau, ac mae ganddyn nhw resymau dilys, ond dwi hefyd wedi clywed gan y rheini o’i blaid.
"Yn fy marn i, diffyg cyfathrebu sy'n gyfrifol am lawer o’r broblemau sy’n wynebu cymunedau. Yr hyn sydd ei angen arnom nawr yw cyfathrebu call a chyson a chyfleoedd i bobl lleisio unrhyw bryderon.”