Newyddion S4C

Rhaglen beilot newydd i 'gefnogi darllen a llythrennedd' drwy gyfrwng y Saesneg

17/05/2023
Plant yn darllen

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhaglen beilot newydd i gefnogi darllen a llythrennedd, ond ar hyn o bryd ni fydd ar gael yn y Gymraeg.

Bydd 10 ysgol gynradd ledled Cymru yn cael eu partneru â myfywyr prifysgol a fydd yn fentoriaid darllen iddynt, a bydd y disgyblion ym mlynyddoedd pump a chwech yn cael "chwe sesiwn awr o hyd wyneb yn wyneb â'u mentoriaid".

Ond, nid yw'r cynllun ar gael yn y Gymraeg ar hyn o bryd. 

Mewn ymateb i’r penderfyniad i beidio cynnwys y Gymraeg yn rhan o’r cynllun peilot, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

“Rydym yn cyllido gwahanol raglenni darllen yn y Gymraeg gan gynnwys prosiect tair blynedd gyda Chyngor Llyfrau Cymru a fydd yn curadu, comisiynu, cyhoeddi a dosbarthu llyfrau i ysgolion er mwyn cefnogi llythrennedd Cymraeg.

“Mae’r rhaglen fentora yn gynllun peilot ar raddfa fach iawn ar hyn o bryd sy’n anelu at ddatblygu cynllun mentora cynaliadwy. Os bydd y cynllun peilot yn llwyddiannus bydd yn cynnwys mabwysiadu’r model o fewn cyd-destun y Gymraeg er mwyn cynnwys yn llawn ddarllen yn y Gymraeg mewn unrhyw gamau uwchraddio a chamau yn y dyfodol.”

Wrth drafod y cynllun peilot, dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg "fod darllen yn sgil hanfodol y bydd disgyblion yn ei defnyddio drwy gydol eu bywyd. Mae'n hollbwysig ein bod yn tanio cariad at ddarllen yn gynnar iawn.

"Bydd y rhaglen beilot mentora yn cynnig manteision i wella sgiliau llythrennedd a hefyd yn meithrin hyder a sgiliau cyfathrebu’r mentor a'r rhai sy'n cael eu mentora."

Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod Estyn yn cynnal adolygiad o ddatblygiad sgiliau darllen Cymraeg a fydd yn sail i waith pellach yn y maes yn y dyfodol.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.