Newyddion S4C

damwain awstralia.jpg

O leiaf saith o blant wedi eu hanafu yn ddifrifol mewn damwain bws yn Awstralia

NS4C 17/05/2023

Mae o leiaf saith o blant wedi eu hanafu yn ddifrifol mewn gwrthdrawiad rhwng tryc a bws ysgol yn Awstralia.

Mae gyrrwr y tryc, 49, wedi ei gyhuddo o bedwar cyhuddiad o yrru'n beryglus gan achosi anafiadau difrifol. 

Fe wnaeth y tryc daro cefn y bws, oedd yn cludo 45 o blant yn ôl i'w hysgol gynradd yn dilyn digwyddiad athletau tua 30 milltir o Melbourne. 

Fe wnaeth y bys droi ar ei ochr gan adael nifer o blant yn gaeth yn y cerbyd.

Llwyddodd diffoddwyr tân i fynd i mewn i'r  bws i geisio achub y plant. 

Cafodd 18 o blant eu cludo i'r ysbyty. Mae saith yn dal i gael triniaeth yno ddydd Mercher ac mae ganddyn nhw anafiadau a fydd yn newid eu bywydau.

Cafodd gyrrwr y bys, 52, hefyd ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau nad oedd yn peryglu ei fywyd. 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.