Newyddion S4C

Cymeradwyo enwau Cymraeg ar ysgolion newydd ardal Pontypridd wedi gwrthwynebiad

16/05/2023
Ysgol Rhydyfelin

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cymeradwyo enwau Cymraeg i dair ysgol newydd yn ardal Pontypridd wedi gwrthwynebiad gan rai rhieni.

Mae’r tair ysgol newydd yn rhan o gynllun addysg £60 miliwn yr ardal, gyda dwy ysgol oedrannau 3-16 ac un ysgol gynradd Gymraeg yn cael eu hadeiladu.   

Bydd yr ysgol 3-16 newydd ym Mhontypridd yn cael ei alw’n Ysgol Bro Taf, tra bod yr ysgol 3-16 newydd yn y Ddraenen Wen wedi ei henwi’n Ysgol Afon Wen. 

Ysgol Gynradd Gymraeg Awel Taf fydd yr enw ar yr ysgol gynradd Gymraeg newydd yn Rhydyfelin. 

Daw hyn yn dilyn gwrthwynebiad gan rhai o drigolion y Ddraenen Wen i roi enw Gymraeg ar yr ysgol fydd yn cymryd lle Ysgol Uwchradd Hawthorn, pan fydd yn agor ei drysau yn 2024. 

Cafodd adroddiad yn cynnwys yr enwau a gyflwynwyd gan gyrff llywodraethu dros dro'r ysgolion ei gymeradwyo gan gabinet Rhondda Cynon Taf ddydd Llun. 

‘Penderfyniad democrataidd’  

Dywedodd adroddiad y cabinet fod Ysgol Afon Wen wedi derbyn y nifer uchaf o bleidleisiau (36%) yn yr ymgynghoriad ar enw’r ysgol newydd yn y Ddraenen Wen, a oedd yn adlewyrchu canlyniad yr ymgynghoriad a gynhaliwyd gyda disgyblion a staff yn y tair ysgol yr effeithiwyd arnynt. 

Ysgol Pontypridd oedd yr enw a dderbyniodd y nifer uchaf o bleidleisiau (40%) yn yr ymgynghoriad ar enw’r ysgol newydd ym Mhontypridd, ac yna Ysgol Bro Taf (17%).  Ond mewn ymgynghoriad gyda disgyblion a staff yr ysgolion sy’n cael eu heffeithio, Ysgol Bro Taf oedd y prif ddewis. 

 Ar gyfer yr ysgol Gymraeg newydd yn Rhydyfelin, dywedodd yr adroddiad fod Ysgol Gynradd Gymraeg Awel Y Taf wedi derbyn y nifer uchaf o bleidleisiau (52%). 

Roedd llywodraethwyr wedi nodi yn y cyfarfod mai’r enw gramadegol cywir fyddai Awel Taf, ond bod yr enw gafodd ei ddethol yn adlewyrchu dymuniadau staff a disgyblion yr ysgolion.

Dywedodd y Cynghorydd Cathy Lisles, sy’n cynrychioli’r Ddraenen Wen a Rhydfelen Isaf, fod yr Afon Taf wedi bod ynghlwm â phentref y Ddraenen Wen ers i ysgol gael ei hadeiladu ar y safle rhyw 145 o flynyddoedd yn ôl. 

Er hynny, roedd hi’n cydnabod “tristwch” rhai trigolion lleol a gyn-disbyglion yr ysgol o golli enw’r Hawthorn a’r hanes sydd ynghlwm. 

“Mae trigolion yn derbyn bod penderfyniad democrataidd wedi’i wneud ac yn edrych ymlaen at fod yn rhan o ddyfodol yr ysgol bob oed newydd wrth iddi ddod yn un o Ysgolion Bro yn y sir,” ychwanegodd y Cynghorydd Lisles. 

“Fodd bynnag, mae trigolion wedi awgrymu fel cymorth i’r rhai sydd ddim mor rhugl yn y Gymraeg bod fersiynau Saesneg o’r enwau yn cael eu cynnwys ar arwyddion hefyd; er enghraifft ar gyfer enw’r ysgol newydd yn Heol y Celyn, gellid ei frandio fel Awel Taf a Taff Breeze.” 

Llun: Cyngor Rhondda Cynon Taf

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.