Truss i annog Sunak i ddatgan yn swyddogol fod China yn ‘fygythiad’ i ddiogelwch y DU

Fe fydd y cyn-brif weinidog Liz Truss yn defnyddio taith i Taiwan i wneud ple bersonol i’w holynydd Rishi Sunak, gan alw arno i ddatgan yn swyddogol fod China yn “fygythiad” i ddiogelwch y DU.
Mewn araith yn ninas Taipei ddydd Mercher, mae disgwyl i Ms Truss osod her i'r Prif Weinidog.
Mae Mr Sunak wedi dweud mai China yw “y bygythiad hirdymor mwyaf i Brydain” a mae e hefyd wedi addo cau pob un o’r 30 o sefydliadau Confucius Beijing yn y DU.
Mae'r sefydliadau yn hyrwyddo diwylliant Cheiniaidd ar gampysau addysg uwch yn ogystal â rhai ysgolion yn y Deyrnas Unedig. Ymhlith y campysau yng Nghymru mae prifysgolion Caerdydd a Bangor a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Yn ei haraith i’r Prospect Foundation, mae disgwyl i Ms Truss ddweud: “ Yr haf diwethaf, disgrifiodd Prif Weinidog Prydain China fel ‘y bygythiad hirdymor mwyaf i Brydain’ a dywedodd y dylid cau Sefydliadau Confucius.
“Roedd yn iawn ac mae angen i ni weld y polisïau hynny’n cael eu gweithredu ar frys.
“Mae angen diwygio adolygiad integredig y DU i ddatgan yn glir bod China yn fygythiad.
“Dylid cau Sefydliadau Confucius ar unwaith. Yn lle hynny fe allai’r gwasanaeth gael ei ddarparu gan sefydliadau sydd â chefnogaeth brodorion Hong Kong a Taiwan sydd wedi dod i’r DU am ddim.”
Democratiaeth
Mae disgwyl i Ms Truss hefyd annog gwledydd y gorllewin i beidio â gweithio gyda China, gan rybuddio nad yw cyfundrefnau totalitaraidd “yn dweud y gwir".
Mae disgwyl iddi ddweud hefyd fod “Gormod o hyd yn y Gorllewin sy’n ceisio glynu at y syniad y gallwn gydweithio â China ar faterion fel newid hinsawdd, fel pe na bai dim o’i le; bod yna faterion mwy na goruchafiaeth fyd-eang Cheinaidd neu ddyfodol rhyddid a democratiaeth.”
“Ond heb ryddid a democratiaeth does dim byd arall.
“Rydyn ni'n gwybod beth sy'n digwydd i'r amgylchedd neu iechyd y byd o dan gyfundrefnau totalitaraidd nad ydyn nhw'n dweud y gwir. Allwch chi ddim credu gair maen nhw'n ei ddweud."
Mae disgwyl i Ms Truss hefyd gymharu'r tensiynau rhwng China a Taiwan, ag ymosodiad Rwsia ar Wcráin.