Newyddion S4C

Drakeford yn addo parhau i ddiwygio’r Senedd wrth i Adam Price gamu o'r neilltu

16/05/2023
Adam Price a Mark Drakeford

Mae Mark Drakeford wedi addo parhau gyda’r gwaith o gyflwyno deddfwriaeth i ddiwygio’r Senedd wrth i Adam Price gamu o’r neilltu yn arweinydd Plaid Cymru.

Cyfrannodd Adam Price at ei sesiwn olaf yn y Senedd yn arweinydd ei blaid ddydd Mawrth.

Yn ei gyfraniad olaf, galwodd ar Brif Weinidog Cymru i "addo" i barhau gyda’r gwaith o ddiwygio y Senedd fel ei bod yn wahanol yn ei hanfod i’r Senedd yn San Steffan.

Daw ei sylwadau ymysg ansicrwydd ynglŷn a’r cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn sgil ymadawiad Adam Price.

Cyhoeddodd Mark Drakeford ac Adam Price ym mis Mai y llynedd fod diwygio maint a system etholiadol y Senedd yn rhan ganolog o’r gytundeb honno.

“Mae’r hyn sy’n ein huno ni yn bwysicach ac yn fwy parhaol na’r hyn sy’n ein rhannu,” meddai Adam Price.

“Mae'r siambr hon yn gylch am reswm - nid yma i greu San Steffan bach ydyn ni.

“Nid arena o elyniaeth yw hon ond Senedd i chwilio am synthesis newydd lle mae’r gwahanol wirioneddau rydyn ni’n eu cynrychioli yn cael eu cyfuno o’r newydd er mwyn sicrhau lles pawb.

“Rydw i eisiau i ieuenctid ein gwlad, menywod a dynion, pob hil, credo, LGBTQ+ ac anabl, y dosbarth gweithiol yn arbennig, deimlo fod y lle hwn yn perthyn iddyn nhw.”

‘Edrych ymlaen’

Wrth ymateb, dywedodd Mark Drakeford ei fod yn “cytuno’r llwyr” gyda llawer o’r hyn a ddywedodd Adam Price.

Dywedodd bod y ddwy blaid yn rhannu “uchelgeisiau” tebyg ond eu bod nhw’n cael eu “mynegi” mewn ffyrdd gwahanol.

“Yn arbennig y pwynt a wnaeth arweinydd Plaid Cymru am y ffordd ymlaen tu hwnt i heddiw,” meddai.

“Byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth i ddiwygio’r Senedd hon i’w gwneud yn addas i gyflawni’r cyfrifoldebau a roddodd pobl Cymru yn ein dwylo.

“Ac i wneud yn siŵr bod y bobl sy’n cyrraedd yma yn y dyfodol yn adlewyrchu’n llawn amrywiaeth a natur y Gymru sydd ohoni.

“Rwy’n edrych ymlaen at y 18 mis nesaf – at ddod â’r darn hwnnw o ddeddfwriaeth gerbron y Senedd.

“I’w drafod yn gadarn, ond bob amser yn ei wneud yn yr ysbryd yr ydym wedi’i glywed gan Adam Price y prynhawn yma.”

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, ei fod e hefyd eisiau “dymuno’r gorau i arweinydd Plaid Cymru”.

“Mae ein gwleidyddiaeth yn hollol wahanol ond dymunaf y gorau iddo ar gyfer y dyfodol,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.