10,000 o lofnodion ar ddeiseb i achub caffi poblogaidd yng Nghaerdydd

Mae 10,000 o bobl wedi arwyddo deiseb er mwyn achub caffi poblogaidd yng Nghaerdydd sydd i fod i gau yn y misoedd nesaf.
Dechreuodd y ddeiseb i 'achub y Secret Garden Café ym Mharc Biwt' ddydd Gwener diwethaf, a daw mewn ymateb i rybudd i gau gan y cyngor erbyn 2 Awst.
Daw hyn wedi misoedd o drafodaethau aflwyddianus rhwng y cyngor a’r perchennog Melissa Boothman, sydd wedi mynegi ei anhapusrwydd â’r penderfyniad.
Yn sgil hynny ,mae miloedd o bobl ledled Caerdydd wedi dangos eu cefnogaeth i'r caffi poblogaidd drwy arwyddo’r deiseb, gyda nifer yn galw am gymorth ar gyfryngau cymdeithasol.
Dywedodd Pam French sy'n byw gerllaw y caffi ei bod hi wedi dechrau’r ddeiseb ar Change.org, gan ddweud: “Mae Secret Garden Café yn cael ei garu’n fawr iawn gan lawer o bobl ledled Caerdydd, mae’n unigryw, yn gymunedol, yn gynaliadwy, a'n gaffi gonest sydd wedi’i staffio gan dîm o bobl hyfryd.
“R'yn ni'n credu y dylai Cyngor Caerdydd a Pharc Biwt gefnogi’r busnes anhygoel, cynaliadwy, moesegol, lleol, annibynnol hwn drwy adnewyddu'r les."
Diffyg amser i weithredu
Yn ôl Cyngor Caerdydd does dim modd adnewyddu'r les ar gyfer y caffi yn uniongyrchol, oherwydd bod y denantiaeth wedi dod i ben a bod angen “cytundeb rheoli newydd bellach”.
Roedd disgwyl i’r les ddod i ben yn wreiddiol ym mis Mawrth ond cytunodd y cyngor i adael i’r busnes barhau ar y safle o dan drefniant dros dro.
Fe fydd y broses gaffael yn dechrau ar 5 Mehefin, ac mae disgwyl iddi barhau am hyd at chwe wythnos.
Dywedodd Cyngor Caerdydd bod hawl gan Melissa Boothman i wneud cais i ail-dendro’r les er mwyn cadw’r busnes, unwaith y bydd y broses gaffael wedi'i sefydlu.
Ond gan bod rhybudd i ymadael eisoes wedi'i gyflwyno i'r caffi, mae Ms Boothman yn pryderu bod prinder amser i weithredu.