Newyddion S4C

Vodafone

Vodfaone yn cyhoeddi cynllun i dorri 11,000 o swyddi

NS4C 16/05/2023

Mae cwmni Vodafone wedi cyhoeddi cynlluniau i dorri 11,000 o swyddi dros y tair blynedd nesaf er mwyn mynd i’r afael â “pherfformiad gwael” y busnes. 

Daw’r cyhoeddiad wedi i'r cwmni adrodd gostyngiad o 1.3% yn ei enillion blynyddol i gyfanswm o £12.8 biliwn, a hynny’n llai na ddisgwylir. 

Bydd disgwyl i’r cynllun effeithio ar swyddi ym mhencadlys Vodafone yn Newbury, Berkshire, yn ogystal â marchnadoedd ledled y byd. 

Dywedodd Margherita Della Valle, a chafodd ei phenodi’n prif weithredwr y grŵp yn gynharach y flwyddyn, fod lleihau'r gweithlu yn rhan o gynllun i “symleiddio’r busnes.”

“Nid yw ein perfformiad yn ddigon da. Er mwyn cyflawni’n gyson, rhaid i Vodafone newid."

“Byddwn yn symleiddio ein sefydliad, gan gael gwared ar gymhlethdod er mwyn adennill ein gallu i gystadlu,” meddai.

Fe gafodd prif weithredwr blaenorol y cwmni, Nick Read, ei orfodi i gamu lawr o’i swydd ym mis Rhagfyr yn sgil y colledion a diffyg elw disgwyliedig. 

Fel rhan o gynlluniau i arbed arian ar y pryd, nodwyd y posibilrwydd o ymddiswyddiadau ledled y cwmni.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.