Betty Williams wedi profi 'haerllugrwydd' tra'n Aelod Seneddol

Mae Betty Williams, y cyn Aelod Seneddol Llafur dros etholaeth Conwy, wedi sôn am brofiadau heriol ac anghyfforddus pan yn wleidydd yn Nhŷ’r Cyffredin.
Yn wreiddiol o Dalysarn, Dyffryn Nantlle, roedd hi'n Aelod Seneddol o 1997 hyd at 2010.
Wrth siarad ar raglen Beti a’i Phobl ar BBC Radio Cymru, dywedodd Betty Williams bod ei phrofiadau gwleidyddol wedi bod yn “anhygoel.”
“Profiad anhygoel oedd cael mynd i’r Senedd,” meddai Betty, ond fe aeth hi ymlaen i sôn am brofiadau llawer mwy heriol.
“O’n i’n sylwi adeg yna wrth gwrs, cyn lleiad o bethau oedd yna ar gyfer merched.
“Yn 1997 fe 'naeth merched, rhan fwyaf ohonyn nhw yn ferched Llafur, hitio’r lle fel bomb.
“Doedd ‘na ddim digon o doiledau yna, oedd na farbwr yna ond dim hairdresser, ma’ hynny yn deud lot.”
'Pethau gwaeth'
Ond nid diffyg cyfleusterau merched yn unig oedd yn wynebu Betty Williams, ond agweddau “haerllug” tuag at ferched.
“Mae hyn yn enghraifft o sut oedden nhw.... oedd na’ un aelod oedd yn ferch a oedd hi’n ferch dlws a reit busty. Pan oedd hi’n codi ar ei thraed fe wnaeth un o’r dynion rhoi ei ddwylo o gwmpas ei chest fatha bod o yn chwarae efo brest dynes 'lly”, meddai Betty Williams.
Dywedodd iddi weld sawl digwyddiad tebyg a “phethau gwaeth.”
“Dwi’n cofio un dyn yn pasio fi ar y coridor a deutha i “you look lovely, I’d like to take you to the nightclub tonight.” Oedd o mor haerllug.
“Ond yn waeth na hynny mae ‘na dri achos lle dwi di cael profiad tebyg. Dyma un dyn yn dod ata i a gwasgu fy mhen-glin yn siambr tra’n fy llongyfarch am araith oeddwn i wedi ei wneud.
“Mae 'na un arall wedi gafael yn fy mrest i yn gyhoeddus.”
Ychwanegodd Betty: “Felly ma’ na brofiadau dwi 'di cael, dwi ddim wedi licio hefyd de.”