Cyhuddo cyn lobïwr gwleidyddol o greu a dosbarthu lluniau anweddus o blant

Mae cyn lobïwr gwleidyddol wedi cael ei gyhuddo o greu a dosbarthu lluniau anweddus o blant.
Roedd Daran Hill yn gyfarwyddwr gyda chwmni Positif Politics tan 2021, ac yn drefnydd cenedlaethol yr ymgyrch dros ddatganoli ym 1997.
Cafodd ei gyhuddo o ddau achos o ddosbarthu delweddau anweddus o blant a thri achos o’u greu nhw.
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran yr Asiantaeth Drosedd Cenedlaethol: “Mae Daran Hill, 52 oed o Gaerdydd, wedi ei gyhuddo o droseddau sy’n ymwneud â lluniau anweddus o blant fel rhan o ymchwiliad gan yr Asiantaeth Drosedd Cenedlaethol.
“Cafodd Hill ei gyhuddo ar 24 Ebrill 2023 gyda pum achos, gan gynnwys dau achos o ddosbarthu delweddau anweddus o blant a thri achos o’u creu nhw.”
Mae disgwyl i Mr Hill ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd wythnos nesaf ar 23 Mai.