Carchar i ddyn o Sir Benfro am annog casineb mewn podlediadau

Mae dyn 51 oed o bentef Gelli yn Sir Benfro wedi ei ddedfrydu i garchar am ddwy flynedd a hanner, ar ol i reithgor ei gael yn euog o annog casineb hiliol mewn podlediadau ar ei wefan.
Clywodd Llys Y Goron Abertawe fod James Allchurch wedi darlledu dros 2000 o bodlediadau a oedd yn cynnwys casineb.
Cafodd Allchurch ei ddyfarnu'n euog o ddeg achos o dan y ddeddf yn ymwneud â'r drefn gyhoeddus.
Cafodd ei gyhuddo yn 2021, wedi pryderon am wefan a oedd yn cynnwys miloedd o ddeunyddiau recordio, a oedd yn cael eu hystyried yn hiliol, homoffobaidd, gwrth Semitaidd a gwrth Islam, yn ogystal â deunydd a oedd yn gwahaniaethu ar sail rhyw.
James Allchurch oedd yn cyflwyno'r podlediadau, gyda rhai o'r penodau yn cynnwys cyd gyflwynwyr a gwesteion.
Dywedodd y Ditectif Brif Uwcharolygydd James Dunkerley a oedd yn arwain yr ymchwiliad na fydd gweithredoedd o'r fath yn cael eu goddef :
“Mae'r deunydd hwn yn sarhaus ac yn ddilornus. Ac wrth ddosbarthu'r negesuon hyn, mae'r dyn hwn yn annog casineb, sy'n golygu fod ganddo'r gallu i beryglu diogelwch y cyhoedd ac ansefydlogi ein cymunedau.
“Ni fyddwn yn goddef unrhyw weithredoedd sy'n tanseilio neu'n hollti ein cymunedau, a byddwn yn parhau i weithio er mwyn atal unigoliolion sy'n ceisio creu'r fath raniadau."