Newyddion S4C

Un o bob pump yn talu cyfradd uwch o dreth incwm erbyn 2027, medd astudiaeth

16/05/2023
S4C

Bydd un o bob pump o drethdalwyr yn talu treth incwm cyfradd uwch erbyn 2027 yn ôl y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS).

Erbyn 2027-28, mae’r IFS yn rhagweld y bydd 7.8 miliwn o bobl yn talu treth incwm o 40% neu fwy.

Mae hyn yn cyfateb i tua un rhan o bump (20%) o drethdalwyr.

Ym 1991-92, talodd 3.5% o oedolion y DU (1.6 miliwn) y gyfradd dreth incwm uwch sef 40%. Erbyn 2022-23, roedd 11% (6.1 miliwn) yn talu cyfraddau uwch, ychwanegodd yr adroddiad.

Nyrsys

Roedd yr adroddiad yn rhagweld: “Erbyn 2027–28, bydd mwy nag un o bob wyth nyrs, un o bob chwe pheiriannydd, un o bob pump o drydanwyr ac un o bob pedwar athro yn drethdalwyr gyfradd uwch.

“Ymhlith swyddogion heddlu, penseiri a syrfewyr, a gweithwyr cyfreithiol proffesiynol, rydym hefyd yn gweld cynnydd sylweddol yn y gyfran sy’n talu treth gyfradd uwch dros amser, gyda disgwyl i bron i hanner y ddau grŵp olaf fod yn talu treth gyfradd uwch yn 2027-28. 

Y lwfans personol safonol yw £12,570, sef y swm o incwm nad oes yn rhaid i rywun dalu treth arno.

Dywedodd Isaac Delestre, economegydd ymchwil gyda’r IFS: “Ar gyfer treth incwm, mae stori’r 30 mlynedd diwethaf wedi bod yn un o drethi cyfradd uwch yn mynd o fod yn rhywbeth a gadwyd yn ôl ar gyfer y cyfoethocaf yn unig, i fod yn rhywbeth i gyfran llawer yn fwy o'r boblogaeth. ”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.