Tywysog Cymru ‘wedi penderfynu peidio cynnal arwisgiad’
Mae'r Tywysog William yn cynllunio ar gyfer diwrnod ei goroni nid ar gyfer arwisgiad yn Dywysog Cymru, yn ôl adroddiadau.
Dywedodd “ffynhonnell agos at y Tywysog William” wrth bapur newydd y Times ei fod wedi penderfynu peidio â chynnal arwisgiad yn Dywysog Cymru wedi’r cwbl.
Yn hytrach, roedd eisoes wedi dechrau meddwl am ei seremoni coroni ei hun mewn 15 neu 20 mlynedd, meddai’r ffynhonnell.
Fe wnaeth cyhoeddiad y Brenin Charles III y byddai y Tywysog William yn etifeddu teitl Tywysog Cymru hollti barn a chodi gwrychyn nifer yng Nghymru pan ddaeth yn frenin yn dilyn marwolaeth Elizabeth II y llynedd.
Ond mae ansicrwydd wedi bod ers hynny a fyddai'r Tywysog William yn cynnal arwisgiad fel y gwnaeth ei dad, wrth i’r Teulu Brenhinol ddweud nad oedden nhw’n “cynllunio” ar gyfer un.
Roedd adroddiadau ym mhapur newydd y Telegraph y llynedd y gallai arwisgiad llai o faint gael ei gynnal yng Nghaerdydd.
Ond dywedodd ffynhonnell sy’n agos at William wrth bapur newydd y Times ei fod bellach yn canolbwyntio ar fod yn “berthnasol” a bod hynny i'w weld yn y modd yr oedd o "wedi penderfynu peidio â chael arwisgiad".
Yn hytrach, roedd eisoes wedi dechrau trafod gyda’i gynghorwyr a’i ffrindiau agosaf sut i gynnal seremoni coroni oedd yn teimlo’n fodern.
Dywedodd gohebydd brenhinol y Times, Roya Nikkhah: “Mae’r rheini sy’n agos ato yn tynnu sylw at ei benderfyniad i beidio â chynnal arwisgiad yn Dywysog Cymru fel arwydd o sut y bydd William yn parhau i dorri â thraddodiad fel etifedd yr orsedd.”
Llun: Stefan Rousseau / PA.