Un o bob tri sy'n sylwi ar symptomau dementia yn cadw'r wybodaeth i'w hunain

Mae un o bob tri o bobl sy’n sylwi ar symptomau dementia arnynt eu hunain neu eu hanwyliaid yn cadw eu hofnau iddyn nhw eu hunain am fwy na mis, yn ôl arolwg.
Mae'r astudiaeth ar gyfer y Gymdeithas Alzheimer's yn awgrymu bod pobl yn aml yn dioddef yn dawel neu’n drysu symptomau cynnar gyda henaint.
Fe wnaeth yr arolwg barn holi 1,137 o oedolion 18 i 85 oed sydd yn byw gyda dementia. Cafodd gofalwyr, pobl heb ddiagnosis sy'n amau bod dementia arnynt a phobl sy'n amau bod gan rywun sydd yn agos iddynt ddementia eu holi.
Mae'r canlyniadau'n awgrymu mai dim ond 15% a gododd y mater ar unwaith a dywedodd 11% eu bod yn dal heb godi eu pryderon ar ôl sylwi ar y symptomau am y tro cyntaf.
Arhosodd tua chwarter (23%) fwy na chwe mis cyn iddynt siarad â gweithiwr meddygol proffesiynol.
Mae’r Gymdeithas Alzheimer’s wedi lansio ymgyrch newydd i annog pobl i geisio cael cymorth i gael diagnosis.
Yn ôl canfyddiadau'r arolwg, drysu symptomau dementia gyda heneiddio arferol oedd y prif reswm pam fod pobl wedi aros yn dawel (64%), ac eraill ddim am boeni eu hanwyliaid (33%) ac hefyd roedd ofnau ynghylch sut y gallai eu perthynas newid (16%).
Dywedodd tua 44% eu bod yn ofnus y byddai pobl yn eu bychanu ar ôl iddynt gael diagnosis, neu eu trin fel plentyn.
'Angen wynebu dementia'
Dywedodd Kate Lee, prif weithredwr y Gymdeithas Alzheimer's: “Ni allwn barhau i osgoi’r gair ‘d’ – mae angen i ni wynebu dementia yn uniongyrchol.
“Yn ystod Wythnos Gweithredu ar Ddementia, rydyn ni eisiau i bawb wybod bod yna gefnogaeth ar gael os ydych chi wedi drysu ynghylch symptomau, neu ddim yn gwybod sut i gael y sgwrs anodd gyntaf.
“Yng Nghymdeithas Alzheimer’s rydym yn ymroddedig i ddarparu cymorth a gobaith i bawb y mae dementia’n effeithio arnynt – dywedodd naw o bob 10 o bobl wrthym eu bod wedi elwa o gael diagnosis."
Ychwanegodd yr elusen fod cael diagnosis cynnar yn hanfodol i helpu i reoli symptomau.