Gwrthbleidiau Twrci'n hyderus ar drothwy etholiad tyngedfennol
Gwrthbleidiau Twrci'n hyderus ar drothwy etholiad tyngedfennol

Gydag etholiadau yn Nhwrci ar y gweill ddydd Sul, fe allai'r arlywydd presennol, Recep Tayyip Erdogan, golli ei arweinyddiaeth ar ôl bod wrth y llyw am 20 mlynedd.
Yn ystod ei gyfnod o reoli fel arweinydd y blaid AK, mae’r Arlywydd Erdogan wedi wynebu beirniadaeth am ei reolaeth lem o’r wlad.
Yn sgil hynny mae chwech o wrthbleidiau Twrci wedi cyfuno i ffurfio cynghrair gyda’r nod o ddisodli Mr Erdogan a’i blaid yn yr etholiadau arlywyddol a seneddol.
Arweinydd Plaid Weriniaethol y Bobl (CHP), Kemal Kilicdaroglu, sydd yn eu harwain fel ymgeisydd ac sy’n sefyll dros ei blaid ei hun yn erbyn Mr Erdogan.
Mae disgwyl i filiynau o ddinasyddion bleidleisio yn yr etholiad hanesyddol a allai sicrhau buddugoliaeth i wrthblaid am y tro cyntaf mewn dau ddegawd.
'Ail-adeiladu democratiaeth'
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Mr Kilicdaroglu: "Mae gan yr etholiadau hyn arwyddocâd hanesyddol i Dwrci. Oherwydd fe fydd yr etholiadau yn dechrau proses o ail-adeiladu'r ddemocratiaeth yr ydym wedi ei golli.
"Ar ôl newid i gyfundrefn un dyn, mewn proses lle y gosodwyd y drefn o ddeddfu a'r farnwriaeth o dan reolaeth y llywodraeth, fe wynebodd Twrci broblemau mawr. Fe aeth bywyd cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd am yn ôl, ac nid yw’r bobl wedi gallu mynegi eu barn.
"Felly, ar ben-blwydd Twrci yn 100 oed, rydyn ni am adeiladu ein democratiaeth ar seiliau gwledydd modern. Rydyn ni am gryfhau ein democratiaeth eto."
Ychwanegodd Mr Kilicdaroglu: "Fel man cychwyn mae angen cael gwared ar y polareiddio yn ein cymdeithas. Dyna pam ydw i’n dweud y byddaf i’n arlywydd ar gyfer pob un o’r 85 miliwn o bobl.
"Yn ail, dydw i ddim yn credu y dylai hunaniaeth, credoau a ffordd o fyw pobol fod yn bynciau gwleidyddol. Mae’n rhaid i’n polisïau cyhoeddus weithredu o fewn y fframwaith hwnnw. Does dim modd gwneud gwleidyddiaeth ar sail hunaniaeth pobl.
"Dyw gwleidyddiaeth ddim yn seiliedig ar gredoau. Fe fydda i’n arlywydd pawb, waeth beth fo'i hunaniaeth neu ei gred."
Mae disgwyl i fwy na 64 miliwn o bobl bleidleisio yn yr etholiad ddydd Sul.
Er mwyn ennill yn llwyr bydd rhaid i ymgeisydd sicrhau mwy na hanner y bleidlais.
Os na fydd unrhyw ymgeisydd yn cael o leiaf 50% yn y rownd gyntaf, fe fydd yr etholiad arlywyddol yn mynd i ail rownd ar 28 Mai rhwng y ddau gafodd y nifer fwyaf o bleidleisiau.