Newyddion S4C

Pensiynwr yn farw yn ei gartref am chwe blynedd cyn i'w gorff gael ei ddarganfod

ITV News 12/05/2023
Yr Heddlu

Mae cwest wedi clywed fod pensiynwr wedi gorwedd yn farw yn ei gartref am chwe blynedd cyn i’w landlord ddod o hyd i’w gorff.

Cafwyd hyd i gorff Robert Alton, 76, ar ôl i'w landlord dderbyn gorchymyn llys i wirio cyflenwad nwy'r eiddo.

Roedd Mr Alton yn “debygol” o fod wedi marw yn ei fflat yn Bolton ym mis Mai 2017, ond ni chafodd ei ddarganfod tan fis Mawrth 2023.

Mae ei landlord, cymdeithas dai Bolton at Home, yn dweud ei fod yn “hollol annerbyniol i ni fod rhywbeth fel hyn wedi digwydd”, gan gyfaddef y dylai fod wedi gwneud mwy i wirio lles Mr Alton.

Yn dilyn cwest i’w farwolaeth dywedodd y Prif Swyddog Gweithredol Noel Sharpe fod Bolton at Home “wedi gwneud llawer o ymdrechion” i gysylltu ag ef “dros nifer o flynyddoedd”, ond ni chafwyd ymateb ganddo.

Y gred yw fod rhent y pensiynwr yn cael ei dalu drwy fudd-daliadau tai.

Ni chafodd ei farwolaeth ei thrin gan Heddlu Manceinion fel un amheus.

Dywedodd Mrs Sharpe mai'r rheswm na ddarganfuwyd marwolaeth Mr Alton yn gynt oedd oherwydd "nad oedd y drefn flaenorol, tra'n cwrdd â gofynion cyfreithiol, yn ddigon cryf i atal rhywbeth fel hyn rhag digwydd".

Dywedodd fod y polisi wedi'i newid ym mis Gorffennaf 2022 felly byddai gwarantau cyfreithiol bob amser yn cael eu ceisio i gael mynediad i gartrefi tenantiaid lle na ellir cysylltu â nhw i wirio cyflenwadau nwy.

Y newid hwnnw a arweiniodd at ddarganfod corff Mr Alton, clywodd y cwest.

Cofnododd y crwner reithfarn agored. Nid oes unrhyw berthnasau wedi cael eu darganfod, er bod Heddlu Manceinio wedi gwneud apêl ar ôl marwolaeth Mr Alton.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.