Rwsia'n gwadu adroddiadau fod byddin Wcráin wedi ail-gipio tir ger Bakhmut

Mae lluoedd sydd yn deyrngar i'r Kremlin wedi gwadu adroddiadau fod byddin Wcráin wedi llwyddo i ail-gipio tiriogaeth o amgylch dinas Bakhmut yn ystod y 24 awr ddiweddaraf.
Mae'r ddinas yn nwyrain Wcráin wedi gweld ymladd gwaedlyd dros y misoedd diwethaf, gydag adroddiadau fod lluoedd Rwsia a hurfilwyr Wagner sydd yn brwydro yno ar ran Moscow wedi dioddef degau o filoedd o farwolaethau.
Ychydig iawn o fantais dactegol sydd i gipio Bakhmut yn ôl arbenigwyr, gydag unrhyw fuddugoliaeth yno yn un symbolaidd yn unig i Rwsia.
Mae adroddiadau ar sianel gyfathrebu Telegram gan unigolion sydd yn gefnogol i Rwsia yn awgrymu fod lluoedd Wcráin wedi llwyddo i daro drwy linellau blaen eu gelyn i'r de a'r gogledd o Bakhmut gan anelu i amgylchynu'r ddinas sydd wedi ei dinistrio bron yn llwyr.
Nid yw'n amlwg eto os mai dyma ddechrau ar wrthymosodiad hir ddisgwyliedig lluoedd Wcráin, neu dim ond ymgais i achosi dryswch yn unig ymysg y rhengoedd cyn i'r gwrthymosodiad iawn ddechrau.
Ddydd Iau fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai'n darparu taflegrau Storm Shadow i Wcráin, wedi i'r wlad alw am ragor o gymorth gan wledydd cefnogol.
Wrth ymateb i'r cytundeb rhwng y DU a Wcráin dywedodd Rwsia y byddai angen "ymateb digonol gan ein byddin."