Caffi poblogaidd yng Nghaerdydd i gau

Mae'n debyg y bydd caffi poblogaidd yng Nghaerdydd yn cau o fewn y misoedd nesaf.
Wedi misoedd o drafodaethau aflwyddiannus i adnewyddu les y Secret Garden Café ym Mharc Biwt, mae'r caffi wedi cael rhybudd i gau gan Gyngor Caerdydd erbyn 2 Awst.
Mae’r caffi wedi buddsoddi mwy na £100,000 yn ystod y pum mlynedd y bu’n gweithredu, ac mae'r perchennog Melissa Boothman yn anhapus gyda phenderfyniad y cyngor.
“Wnes i erioed ddychmygu y byddai'n troi allan fel hyn. Dwi mor drist hefyd – mae'n drist iawn i mi a’m tîm a hefyd i’r gymuned, i holl ymwelwyr Parc Biwt a’r gymuned sy’n dod ac yn defnyddio’r caffi.
“Nid yw'n fater o ddod i gael paned o goffi yn unig. Mae’n golygu ei fod yn fan agored a chroesawgar iawn lle gall pawb o bob cefndir gerdded drwy’r drws a byddant yn cael eu cyfarch â gwên fawr.”
“Mae’n fy ngwneud yn drist iawn nad yw hynny’n cael ei werthfawrogi gan y cyngor a’i fod mor hawdd ei ddiystyru."
'Croesawu cynnigion'
Dywedodd Cyngor Caerdydd nad oedd modd adnewyddu'r les yn uniongyrchol ar gyfer y caffi oherwydd bod y tenantiaeth wedi dod i ben a bod angen “cytundeb rheoli newydd bellach”.
Dywedodd yr awdurdod lleol hefyd y gall y caffi wneud cais am adnewyddu'r les newydd pan fydd y dulliau caffael newydd yn cychwyn ym mis Mehefin.
Yn eu datganiad, dywedodd Cyngor Caerdydd: “Mae tenantiaeth y gweithredwr presennol wedi dod i ben, ac mae angen cytundeb rheoli newydd a phrydles cysylltiedig nawr.
“Ar sail hyn, nid oes modd rhoi dyfarniad uniongyrchol, ac mae dulliau caffael newydd yn cael ei gynnal.
“Rydym yn croesawu cynigion gan weithredwyr, gan gynnwys y tenant presennol, i reoli’r safle a pharhau i gynnig mynediad i doiledau yn y parc, yn ogystal â chynnal cyfleusterau ar y safle, er mwynhad ymwelwyr â Pharc Bute.”
Dywedodd Melissa ei bod yn “ddinistriol” derbyn hysbysiad gadael ar ôl blynyddoedd o fuddsoddi yn y busnes a gwneud gwaith cymunedol.
“Bydd unrhyw un sydd wedi sefydlu eu busnes eu hunain yn gwybod beth sydd ei angen i ddechrau busnes a rhedeg busnes, busnes bach. Rydych chi'n rhoi popeth iddo," meddai.
“Rydych chi'n rhoi gwaed, chwys a dagrau iddo. Rydych chi'n aberthu er mwyn gwneud y busnes hwn yn llwyddiant."
Gyda'r hysbysiad i adael wedi'i gyflwyno cyn i'r cyngor dderbyn cynigion amrywiol a phenderfynu ar weithredwr, dywedodd Melissa nad oedd ganddi lawer o amser i weithredu.
Hyd yn oed os bydd Melissa yn penderfynu ail-dendro am y brydles, dywedodd ei bod yn dal i gael y rhybudd i adael a dim ond tri mis sydd ganddi i adael.
"Mae’n cymryd chwe mis i gau busnes yn iawn, felly nid yw tri mis yn ddigon o amser ac yna mae’n rhaid i chi feddwl am eich stoc.
“Gorbryder, nosweithiau digwsg, poenau yn y cyhyrau, cur pen, mae hynny wedi bod yn gyson ers wyth mis ac mae'n emosiynol iawn.