Newyddion S4C

Adam Price

Pwy fydd arweinydd nesaf hirdymor Plaid Cymru ar ôl Adam Price?

NS4C 11/05/2023

Mae arweinydd Plaid Cymru, Adam Price wedi dweud y bydd yn camu i lawr yr wythnos nesaf wedi penodi arweinydd dros dro.

Mae Plaid Cymru eu hunain wedi dweud eu bod nhw’n gobeithio penodi arweinydd newydd hirdymor yn ystod yr haf.

Felly pwy yw’r ffefrynnau ar gyfer y swydd – a pa rwystrau sy’n sefyll yn eu ffordd?

Yn ôl rheolau Plaid Cymru mae’n rhaid i’r arweinydd fod yn aelod o Senedd Cymru felly does dim modd i Liz Saville Roberts, Ben Lake na Hywel Williams roi eu henwau ymlaen.

Image
Rhun

Rhun ap Iorwerth

Safodd Rhun ap Iorwerth yn erbyn Adam Price a Leanne Wood yn 2018 gan ddod yn ail.

O dan amgylchiadau arferol yr Aelod o Senedd Cymru, sydd â mwyafrif sylweddol ar Ynys Môn fyddai'r ffefryn i fynd a’r swydd.

Ond un cymhlethdod yw ei fod eisoes wedi dweud y bydd yn sefyll i fod yn Aelod o Senedd San Steffan ar Ynys Môn yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf.

Efallai y bydd yn rhaid iddo ddewis rhwng hynny ag arwain ei blaid yn y Senedd.

Image
Delyth

Delyth Jewell

Enw arall sy’n cael ei grybwyll yw Delyth Jewell. Yn wahân i weddill y genhedlaeth newydd o ASau Plaid Cymru mae hi wedi bod yn y Senedd ers dros bedair blynedd.

Daeth yn aelod o Senedd Cymru yn dilyn marwolaeth Steffan Lewis yn 2019.

Mae ganddi gyfrifoldeb amlwg o fewn cabinet presennol Plaid Cymru fel eu llefarydd ar Newid Hinsawdd, Ynni a Thrafnidiaeth.

Os yw’r blaid eisiau wyneb cymharol newydd er mwyn symud ymlaen o helbulon y gorffennol gallai fod yn ddewis poblogaidd.

Image
Elin

Elin Jones

Elin Jones yw aelod mwyaf profiadol Plaid Cymru wedi bron i chwarter canrif yn y Senedd.

Mae’n gyn weinidog dros Faterion Gwledig yn Llywodraeth Cymru’n Un rhwng 2007 a 2011.

Mae hi wedi cystadlu am yr arweinyddiaeth o’r blaen gan sefyll yn erbyn Leanne Wood yn 2012 gan golli o 41% i 55%.

Y rhwystr mawr yw ei bod hi eisoes yn meddu ar un o swyddi pwysicaf y Senedd – Y Llywydd – ac efallai y bydd yn amharod i roi’r gorau iddo.

Image
Mabon

Mabon ap Gwynfor

Mabon ap Gwynfor yw un o’r amlycaf o’r genhedlaeth newydd o wleidyddion Plaid Cymru a etholwyd yn 2021.

Mae ganddo sedd saff yn Nwyfor Meirionnydd sydd yn golygu y byddai modd iddo ganolbwyntio ar y gwaith caib a rhaw sydd angen ei wneud er mwyn arwain y blaid.

Ond gydag ychydig yn llai na dwy flynedd ers cael ei ethol efallai na fyddai yn cael ei ystyried yn ddigon profiadol eto.

Image
Sian

Siân Gwenllïan

Mae Siân Gwenllïan wedi bod yn y Senedd ers chwe blynedd ac mae’n Aelod Dynodedig Arweiniol Plaid Cymru yn y cytundeb cydweithio gyda Llywodraeth Cymru, yn Prif Chwip ac yn Ddirprwy Arweinydd.

Er ei bod hi wedi chwarae rôl hynod bwysig y tu ôl i’r llenni i Blaid Cymru efallai y bydd cwestiynau a ydi hi wedi cael rôl digon amlwg yn llygaid y cyhoedd er mwyn ennill gornest arweinyddol.

O fantais iddi efallai yw ei bod hi’n Aelod dros Arfon - rhan o Gymry lle mae llawer iawn o aelodau Plaid Cymru yn trigo.

Image
Llyr

Llŷr Huws Gruffydd

Mae Llŷr Huws Gruffydd wedi bod yn aelod o’r Senedd ers dros ddegawd ac felly bellach yn un o’r aelodau mwyaf profiadol yng ngrŵp Plaid Cymru.

Ef yw dewis Plaid Cymru fel arweinydd dros dro - on mae rheolau'r blaid yn golygu nad yw'r arweinydd dros dro yn cael sefyll ar gyfer y swydd parhaol.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.