Newyddion S4C

Job Centre/ swyddi

Bron i draean o gyflogwyr yn 'debygol o ddiswyddo staff' dros y flwyddyn nesaf

NS4C 11/05/2023

Mae bron i draean o gyflogwyr yn debygol o ddiswyddo staff dros y flwyddyn nesaf, yn ôl ymchwil newydd.

Roedd arolwg o fwy na 1,000 o fusnesau oedd yn gofyn i fusnesau am eu cynlluniau diswyddo dros y 12 mis nesaf wedi canfod bod cwmnïau sydd yn fwy o faint yn fwy tebygol o ddiswyddo staff o fewn y flwyddyn nesaf.

Dywedodd y gwasanaeth cymodi Acas, a gynhaliodd yr arolwg, fod rhai busnesau yn wynebu heriau sylweddol.

Dywedodd Prif Weithredwr Acas, Susan Clews: “Mae ein canfyddiadau’n dangos bod sefydliadau mawr yn fwy tebygol o ddiswyddo na sefydliadau sy’n cyflogi llai na 250 o weithwyr.

“Cyngor Acas i benaethiaid yw dewis pob opsiwn ar wahân i ddiswyddo yn gyntaf, ond os yw cyflogwyr yn teimlo nad oes ganddynt ddewis yna mae’n rhaid iddynt ddilyn y gyfraith yn y maes hwn neu fe allen nhw fod yn destun proses gyfreithiol gostus.”

Os bydd cyflogwr yn canfod nad oes unrhyw ddewisiadau eraill heblaw dileu swyddi, yna mae rheolau llym ar ymgynghori â staff y mae'n rhaid iddynt eu dilyn, meddai Acas.

Mae'n rhaid i gyflogwr drafod unrhyw newidiadau arfaethedig ac ymgynghori â phob gweithiwr y gallai hyn effeithio arnynt, sy'n cynnwys y rhai fydd yn cael eu heffeithio.

Mae'r cyfnod ymgynghori byrraf i weithwyr yn amrywio gan ddibynnu ar nifer y gweithwyr y mae cyflogwr yn dymuno eu diswyddo.

Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i gyflogwyr sy'n dymuno diswyddo 20 neu fwy o staff dros unrhyw gyfnod o dri mis hefyd ymgynghori ag undeb llafur cydnabyddedig ynghylch y newidiadau arfaethedig.

Ar gyfer 20 i 99 o ddiswyddiadau, rhaid i’r ymgynghoriad ddechrau o leiaf 30 diwrnod cyn y gall y diswyddiad cyntaf ddod i rym, ac ar gyfer 100 neu fwy o ddiswyddiadau, rhaid iddo ddechrau o leiaf 45 diwrnod cyn hynny.

Am lai nag 20 o ddiswyddiadau, nid oes cyfnod penodol o amser ond rhaid i hyd yr ymgynghoriad fod yn rhesymol, meddai Acas.

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.