Newyddion S4C

16 mis o garchar i ddyn o Fôn am gynhyrchu a bod â delweddau anweddus o blant yn ei feddiant

10/05/2023
S4C

Mae dyn wedi cael ei ddedfrydu i 16 mis o garchar am gynhyrchu a bod â delweddau anweddus o blant yn ei feddiant.

Fe wnaeth Tudor James Williams, 69 oed, o Gae Bach Aur, Bodffordd, Llangefni, ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mawrth, ar gyhuddiad o gyflawni wyth o droseddau.

Roedd y troseddau yn cynnwys cynhyrchu delweddau anweddus o blentyn, cynhyrchu delweddau ffug anweddus o blentyn, bod a delweddau pornograffig eithafol a delweddau gwaharddedig o blant yn ei feddiant.

Yn ogystal â'r ddedfryd o garchar, gwnaed Williams yn destun Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol am 10 mlynedd.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Victoria Tower: “Mae’n amlwg bod gan Williams ddiddordeb rhywiol pryderus mewn plant ifanc ac ni all unrhyw lefel o ddedfryd ddechrau adlewyrchu’r dinistr y mae wedi’i achosi o’i weithredoedd.

“Rwy’n cymeradwyo’r dewrder a ddangoswyd gan bawb a fu’n ymwneud â’r ymchwiliad hwn ac a  siaradodd yn ei erbyn ac a helpodd i sicrhau ei fod yn cael ei roi o dan glo. 

“Rydym yn cymryd pob trosedd o’r natur hwn o ddifrif a byddwn yn parhau i amddiffyn y plant yn ein cymuned rhag troseddwyr o’r fath trwy sicrhau bod y rhai sy’n ceisio niweidio plant yn cael eu hadnabod a’u carcharu am eu troseddau.”
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.