Llys yn rhoi amser i Lawrence Dallaglio i dalu dyled treth o £700,000

Mae barnwr wedi rhoi amser i gyn-seren rygbi Lloegr, Lawrence Dallaglio, i dalu dyled treth o tua £700,000.
Cafodd achos Mr Dallaglio ei drafod mewn gwrandawiad Llys Ansolfedd a Chwmnïau yn Llundain ddydd Mawrth, ar ôl i swyddogion Cyllid a Thollau gyflwyno deiseb methdalwr yn ei erbyn.
Mae Mr Dallaglio, 50, yn ceisio codi arian drwy werthu eiddo, meddai cynrychiolydd o'r Swyddfa Gyllid a Thollau wrth y barnwr yn y gwrandawiad.
Fe fydd barnwr yn ailystyried yr achos ymhen tua thri mis, dywedwyd wrth y llys.
Doedd Dallaglio, oedd yn rhan o dîm Lloegr enillodd Cwpan y Byd yn 2003, ddim yn y gwrandawiad