Guto Harri: Boris Johnson a'r Brenin 'wedi anghytuno'n fawr' ar bolisi Rwanda

Mae Guto Harri wedi dweud fod Boris Johnson a'r Brenin Charles III wedi anghytuno'n sylweddol ar bolisi Rwanda Llywodraeth y DU.
Wrth siarad ar orsaf radio LBC ddydd Mawrth, dywedodd Mr Harri, oedd yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu Boris Johnson yn nyddiau olaf ei gyfnod fel prif weinidog, fod y Brenin wedi disgrifio'r polisi fel un "gwarthus."
Ychwanegodd fod Mr Johnson wedi "camu i wyneb Charles yn fygythiol" am wneud ei sylwadau.
"Roedden nhw wedi cael bach o showdown, am y rheswm fod y dyn sydd nawr yn frenin yn barnu beth oedd yn A - polisi llywodraethol hynod o boblogaidd, B - yn ganolog i bolisi'r llywodraeth, ag C - noson cyn i'r ddau ohonynt fynd i'r lleoliad oedd wrth wraidd y stori, Rwanda."
Fe wnaeth Mr Harri ddweud bod Mr Johnson yn "iawn" i herio'r Brenin Charles am yr hyn ddywedodd.
Dywedodd hefyd ei fod yn meddwl bod y Brenin Charles yna wedi ceisio gwadu ei fod wedi disgrifio'r polisi fel un "gwarthus".
"Os mai chi yw'r tywysog, neu'r prif weinidog, mae ganddo chi fyddin o bobl sydd yn gallu ffonio golygyddion papurau newyddion a dweud wrthynt nad yw hyn yn wir, cymerwch y stori lawr, a bydden nhw'n gwneud hynny os nad yw'n wir," meddai.
"Felly mae'r ffaith bod y stori wedi aros a methu cael eu gwadu yn dangos ei fod wedi disgrifio polisi'r llywodraeth fel un gwarthus."
Llun: LBC