Heddlu'r Met yn 'difaru' arestio rhai protestwyr yn Llundain cyn Coroni'r Brenin Charles

Mae Heddlu'r Met wedi mynegi eu bod yn “difaru” arestio chwech o brotestwyr yn Llundain cyn Coroni'r Brenin Charles ddydd Sadwrn.
Roedd arweinydd grŵp gwrth-frenhiniaeth Republic, Graham Smith, ymhlith chwech o bobl a gafodd eu harestio gan swyddogion.
Erbyn hyn, mae'r Met nawr wedi cynnal ymchwiliad sydd wedi gallu profi nad oedd gan y grŵp bwriad i amharu ar y digwyddiad.
“Mae mechnïaeth pob un o’r chwech wedi eu gohirio ac ni fydd unrhyw gamau pellach yn cael eu cymryd,” meddai’r Met mewn datganiad.
“Rydym yn gresynu nad oedd y chwe pherson a gafodd eu harestio wedi gallu ymuno â’r grŵp ehangach o brotestwyr yn Sgwâr Trafalgar ac mewn mannau eraill ar lwybr yr orymdaith.”
Mae Mr Smith yn galw am “ymchwiliad llawn” i bwy awdurdododd yr arestiadau yn ystod y “pennod warthus”.
Cafodd 64 o bobl eu harestio ar ddiwrnod y coroni gyda 46 ohonynt yn cael eu rhyddhau ar fechnïaeth ar amheuaeth o dor heddwch neu achosi niwsans cyhoeddus.
Dywedodd Mr Smith: “Mae’r cyflymder y gafodd pobl eu rhyddhau yn dangos eu bod yn ymwybodol eu bod wedi gwneud camgymeriad difrifol iawn ac y bydd camau’n cael eu cymryd eto.
“Rwy’n amlwg yn falch bod y cyhuddiadau wedi eu gollwng mor gyflym, ond yn ddig iawn ar ôl iddyn nhw ddwyn rhyddid pobl am ddim rheswm o gwbl.
“Doedd dim tystiolaeth o unrhyw allu na bwriad i gyflawni unrhyw drosedd ac fe benderfynon nhw ein harestio ni ac mae hynny’n warthus.”
Ymddiheuro
Ychwanegodd Smith fod prif arolygydd a dau swyddog arall o'r Met wedi ymddiheuro iddo'n bersonol yn ei gartref yn Reading nos Lun.
"Roedd gen i dri swyddog yn bersonol yn ymddiheuro ac yn rhoi'r strapiau yn ôl i mi. Roedden nhw'n ymddangos braidd yn chwithig a dweud y gwir," meddai.
"Fe wnes i ddweud na fyddaf yn derbyn yr ymddiheuriad. Mae gen i lawer o gwestiynau i'w hateb."
Mae’r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi cefnogi’r Met dros yr arestiadau, er gwaethaf bod swyddogion yn mynd i’r afael â'r protestiadau ddydd Sadwrn dan bwysau gan wleidyddion.
Disgrifiodd Mr Smith arestio protestwyr yn ystod y coroni fel "ymosodiad uniongyrchol ar ddemocratiaeth" oedd yn dangos nad yw'r hawl i brotestio yn heddychlon "yn bodoli bellach".
Mewn neges ar Twitter nos Lun, dywedodd: “Rydyn ni newydd gael gwybod na fydd yr heddlu’n cymryd unrhyw gamau pellach.
“Mae hwn wedi bod yn gyfnod gwarthus a byddwn yn siarad â chyfreithwyr am gymryd camau cyfreithiol.
“Rwyf hefyd yn disgwyl ymchwiliad llawn i pam dywedodd yr heddlu celwyddau wrthym dro ar ôl tro a phwy awdurdododd yr arestiadau.”