Newyddion S4C

Maes awyr

Maes Awyr Birmingham yw'r 'gwaethaf' am oedi medd arolwg

NS4C 09/05/2023

Am yr ail flwyddyn yn olynol, mae Birmingham ar frig rhestr y meysydd awyr yn y Deyrnas Unedig sy'n perfformio waethaf o safbwynt hediadau hwyr, gyda Chaerdydd yn seithfed ar y rhestr. 

Ar gyfartaledd, roedd hediadau Maes Awyr Birmingham yn rhedeg hanner awr yn hwyr yn 2022, yn ôl ystadegau gan yr Awdurdod Hedfan Sifil.

Mae hynny'n ddwbl y cyfnod yn ystod 2021, pan ddaeth Birmingham i'r brig bryd hynny hefyd.   

Yn ôl rheolwyr y maes awyr yng nganolbarth Lloegr, mae eu gwasanaethau yn "rhedeg yn esmwyth eleni"

Yn gydradd ail ar y rhestr roedd Maes Awyr Doncaster Sheffield a gaeodd fis Tachwedd diwethaf, a Maes Awyr Manceinion. 29 munud oedd yr oedi yno ar gyfartaledd.    

26 munud oedd yr oedi ym Maes Awyr Bryste ar gyfartaledd, a 24 munud ym Maes Awyr Caerdydd.   

Y cyfartaledd wrth gyfrif pob maes awyr oedd 23 munud.

Chafodd hediadau wedi eu canslo ddim eu cynnwys yn yr ystadegau.

Mai a Mehefin oedd y misoedd gwaethaf o safbwynt prydlondeb hediadau, wrth i'r diwydiant fethu â hyfforddi a chyflogi digon o weithwyr i gwrdd â'r cynnydd yn y galw am wyliau. 

I nifer yng nghanolbarth Cymru, Birmingham yw'r maes awyr agosaf. Teithiodd rhyw 10.3 miliwn o bobol o bob cwr o'r Deyrnas Unedig o Birmingham y llynedd, sy'n golygu mai dyma'r seithfed maes awyr prysuraf. 

Dywedodd llefarydd ar ran Maes Awyr Birmingham: “Cawsom ein llorio ar ddechrau 2022 oherwydd Covid." 

“Wedi i'r cyfyngiadau ar deithio gael eu codi, fe frwydrodd y diwydiant hedfan yn galed er mwyn goroesi. 

“Eleni, mae ein maes awyr yn rhedeg yn esmwyth ac ry'n ni'n disgwyl i nifer y cwsmeriaid gyrraedd yr un lefel â'r cyfnod cyn y pandemig, os nad fymryn yn uwch." 

 

This website uses cookies to ensure you get the best experience on our website.