Dyn o Gorwen o flaen ynadon wedi ei gyhuddo o dri achos o geisio llofruddio

Mae dyn 27 oed o Gorwen wedi ymddangos yn Llys Ynadon Yr Wyddgrug ar gyhuddiad o dri achos o geisio llofruddio a bod â chyllell yn ei feddiant.
Cafodd Ryan Wyn Jones ei gadw yn y ddalfa gan ynadon, a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ar 9 Mehefin.
Cafodd ei arestio ar ôl i'r heddlu ymateb i adroddiadau o ddigwyddiad domestig yn ardal Clawdd Poncen, Corwen yn ystod oriau mân fore Gwener.
Cadarnhaodd yr heddlu bod menyw 33 oed yn parhau i fod yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol ond sefydlog ar ôl iddi ddioddef anafiadau difrifol yn dilyn y digwyddiad.
Cafodd tri o blant hefyd eu cludo i’r ysbyty ac mae un yn parhau yno gydag anafiadau difrifol.
Meddai’r Ditectif Arolygydd Myfanwy Kirkwood: “Hoffwn gymeryd y cyfle yma i ddiolch i drigolion ardal Clawdd Poncen unwaith eto am eu cefnogaeth a chymorth.
“Rydym yn parhau i apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu drwy ein sgwrs we fyw neu drwy alw 101 gan roi’r rhif cyfeirnod A066020.”