Datblygiad tai Cyngor Gaerdydd yn Grangetown yn codi gwrychyn

Datblygiad tai Cyngor Gaerdydd yn Grangetown yn codi gwrychyn
Mae Cyngor Caerdydd wedi cael ei gyhuddo o "ansensitifrwydd" wrth ail-ddatblygu stad o dai a fflatiau yn ardal Grangetown o’r brifddinas.
Mae rhai trigolion lleol yn cwyno am ddiffyg ymgynghori ac yn codi pryderon y gallai'r gymuned sy'n byw yn ardal Trem y Môr gael ei chwalu.
Mae'r Cyngor yn dweud y bydd pawb sydd eisiau cael eu hail-leoli yn yr un ardal, yn cael aros gyda’i gilydd.
Bwriad y cynllun yw i ddymchwel twr o fflatiau yn Nhrem y Môr a chodi hyd at 400 o gartrefi newydd, gan gynnwys cymysgedd o dai cyngor a phreifat.
Byddai rhan o dir gwyrdd parc y Marl yn diflannu hefyd.
Doedd gwneud hynny ddim yn bosib ar gyfer lleoli ysgol Gymraeg newydd rai blynyddoedd yn ôl.
Mae hyn wedi gwneud i rai yn y gymuned gwestiynu os oes safonau dwbl yn bodoli yn yr achos yma – ond mae’r cyngor yn gwadu’r honiad.