Newyddion S4C

Prif Weithredwr Swydda’r Post yn gaddo talu ei fonws yn ôl

08/05/2023
Swyddfa'r Bost

Mi fydd Prif Weithredwr Swyddfa'r Post yn talu’n ôl rhan o’r £450,000 a gafodd fel bonws y llynedd, wrth i'r ymchwiliad i’r sgandal Horizon barhau.

Mae Nick Read wedi ymddiheuro ar ôl cydnabod na chafodd taliadau bonws i’w hun a rhai o uwch swyddogion eraill y sefydliad eu cymeradwyo yn y modd cywir.

Yn ôl adroddiad blynyddol Swyddfa’r Post, roedd y taliadau wedi derbyn sêl bendith Cadeirydd yr ymchwiliad, Barnwr yr Uchel Lys, Syr Wyn Williams, ond daeth i’r amlwg nad oedd wedi eu cymeradwyo.

Daw hyn wrth i’r ymchwiliad Horizon edrych ar sut cafodd cannoedd o is-bostfeistri eu herlyn ar gam, a rhai eu carcharu rhwng 2000 a 2014, ar ôl cael eu cyhuddo o ddwyn arian, twyll a chadw cyfrifon ffug.

Daeth i’r amlwg mai nam ar system gyfrifiadurol Horizon oedd yn achosi anghysonderau mawr yng nghyfrifon nifer o swyddfeydd post, ac fe gafodd euogfarnau 39 o is-bostfeistri eu gwyrdroi gan y Llys Apêl yn Llundain.

“Gwall annerbyniol”

Mewn llythyr a gyfeiriwyd at Syr Wyn, fe wnaeth Mr Read gyfaddef ei fod wedi methu â derbyn cymeradwyaeth am y taliadau, gan ei alw’n “wall annerbyniol ar ein rhan ni”.

Dywedodd Mr Read: “Hoffwn eich sicrhau ein bod yn parhau i weithio’n galed fel busnes i gefnogi pob agwedd o’r ymchwiliad ac mi rydyn yn ymdrin â dymuniadau’r postfeistri fel ein blaenoriaeth bennaf.

“Ein bwriad ni yw cynnig iawndal llawn a theg cyn gynted â phosib, ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i weithio gyda’r llywodraeth i gyflawni hynny.

“Byddaf yn bersonol yn parhau i sicrhau bod y busnes yn rhoi’r gefnogaeth orau i chi a’r tîm ymholi fel y gellir dysgu’r holl wersi o’r sgandal yma.”

Ysgrifennodd Syr Wyn yn ôl at Mr Read yn diolch iddo am “gymryd y drafferth i ymddiheuro’n bersonol i mi ar ran y swyddfa bost”, a’i gynghori y byddai’r llythyrau’n cael eu cyhoeddi.

Mae disgwyl i ymchwiliad Horizon barhau tan 2024.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.