Pryder am algâu gwenwynig wedi i gi farw

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi mynegi pryder am algâu gwenwynig wedi i gi farw yn Sir Conwy.
Maen nhw wedi galw ar bobl i gadw draw o’r dyfroedd o amgylch Parc Penmaen.
Gall algâu gwyrddlas gynhyrchu tocsinau niweidiol sy'n wenwynig i gŵn.
“Rydym wedi derbyn adroddiad posib o algâu gwyrddlas o amgylch Parc Penmaen ger clwb hwylio Penmaenmawr,” medden nhw.
“Yn anffodus, mae ci wedi a marw ac mae amheuaeth ei fod wedi ei wenwyno gan algâu.
“Os ydych chi yn yr ardal, cadwch eich hun a'ch anifeiliaid anwes draw o'r dŵr."